Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


‘Gappies’ yn ymweld â Neuadd y Sir

Published: 10/12/2019

Bu i Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman, a’i Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman, groesawu carfan bresennol Sir y Fflint o hyfforddeion “WeMindTheGap” (a elwir ar lafar yn ‘Gappies’) i Neuadd y Sir yn ddiweddar.  

Mae pob un o’r ‘Gappies’ yn cymryd rhan mewn rhaglen ddeuddeng mis (a sefydlwyd gan sylfaenydd Moneypenny, Rachel Clacher yn 2014), sy’n cynnig cymorth a chyfleoedd cyfartal i bobl ifanc yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Bateman: 

“Roedd yn hyfryd cael croesawu’r bobl ifanc i Neuadd y Sir a rhoi cipolwg iddyn nhw o’r hyn sy’n digwydd yma.  Roedden nhw i gyd i'w gweld yn mwynhau’r ymweliad â Siambr y Cyngor yn fawr.  Mae wir yn wych gweld prosiectau arloesol fel hyn yn llwyddo cystal yn ein Sir."

Dywedodd Rachel Clacher: 

“Rydym ni wedi cyffroi’n lân cael cychwyn rhaglen arall yn Sir y Fflint eleni. Fel bob amser, allen ni ddim bod wedi gwneud hynny heb ein cyflogwyr-bartneriaid a’n cyllidwyr, sy’n ein galluogi i gyfoethogi bywydau deg o ferched ifanc ym mhob lleoliad. Mae’n rhoi cyfleoedd all weddnewid eu bywydau iddyn nhw fagu hunanhyder, ehangu eu gorwelion a chael lleoliadau gwaith gyda thâl dros y chwe mis nesaf. Mae’n brosiect unigryw, nid yn unig oherwydd ei gyfraddau llwyddiant, ond oherwydd ei ymagwedd gwbl gyfannol a’i gymorth gydol oes.”

Ers 2014, mae WeMindTheGap wedi tyfu y tu hwnt i ffiniau Wrecsam i Sir y Fflint, Manceinion a Lerpwl.   I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wemindthegap.org.uk @WeMindTheGapUK. 

Gappies.jpg

 

Gwelir y ‘Gappies’ yn y llun gyda’r Cynghorwyr Bateman a’u ‘Modryb’ (Arweinydd Prosiect) a’u ‘Chwaer Fawr’ (Swyddog Lles), sef y tîm cyflenwi.