Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Marchnad Nadolig yr Wyddgrug

Published: 10/12/2019

Cynhaliwyd Marchnad Nadolig yr Wyddgrug yn ddiweddar a drefnwyd gan wasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug.  

Roedd cyfanswm o 86 o fasnachwyr a daeth tua 3000 o bobl i ymweld â’r farchnad o bell ac agos.  Roedd yr atyniadau’n cynnwys ‘Let it Snowglobe’ a Leeswood Reindeer Lodge a Siôn Corn.

Cafwyd adloniant gan y Côr Roc, Côr y Pentan, Band Brenhinol Bwcle, Cymdeithas Gorawl yr Wyddgrug, Dan Hollinrake ac Asia Mountford. 

Dywedodd Jane Evans, Swyddog Digwyddiadau ac Ymgysylltu â'r Gymuned Cyngor Tref yr Wyddgrug:

“Am ddiwrnod ardderchog, roedd hi’n wych gweld y dref mor brysur gyda chymaint o bobl yn ymweld â’r Wyddgrug, yn enwedig ar gyfer marchnad y Nadolig.  Roedd hi’n wych gweld stondinwyr newydd ar yn farchnad yn ogystal â’r rhai rheolaidd.  Roedd y glôb eira, Siôn Corn a’r Ceirw yn boblogaidd iawn gyda’r teuluoedd.  Dywedodd llawer o fanwerthwyr agorodd yn arbennig ar gyfer y diwrnod eu bod wedi cael diwrnod gwych o fasnachu. 

Roedd Canolfan Daniel Owen ar agor drwy’r dydd gyda stondinau yn y ganolfan yn ogystal â masnachwyr ac atyniadau ar Sgwâr Daniel Owen.  Roedd stondinau yn y Farchnad Dan Do hefyd.  Roedd y stondinwyr yn cynnwys Vegan House Foods, Dough Bellissimo, Mold Town Council Plastic reduction , Cahoots Mobile Bar, Sonya’s Snowy Cones, Candy Floss, Waffles, popcorn a Twister sister gifts, jewellery and homeware.

Dywedodd Emma Williams, un o stondinwyr rheolaidd Marchnad yr Wyddgrug: 

Roedd hi’n wych gweld y dref mor brysur. Daeth y gymuned at ei gilydd am ddiwrnod gwych arall. Fel stondinwr dwi’n gwerthfawrogi cefnogaeth yr Wyddgrug a’r rhai a ddaeth i ymweld o bell ac agos. Fe weithiodd y stondinwyr a’r cyngor yn galed i gynnal y digwyddiad a gobeithio y bydd yn ddigwyddiad rheolaidd.” 

Melanie and Zara Williams IMGsmall.jpg          

Melanie a Zara Williams 

Nancy Williams, Jo and Freya Cox, Melanie Williams IMGsmall.jpg

Nancy Williams, Jo Cox, Freya Cox, Melanie Williams