Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hyfforddiant am ddim i fentrau cymdeithasol yn Sir y Fflint

Published: 17/12/2019

Darparodd Tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Picturehouse Films weithdy hyfforddiant am ddim yn ddiweddar ar gyfer mentrau cymdeithasol ar draws Sir y Fflint.

Mae Picturehouse yn gwmni sector preifat gyda dros 30 mlynedd o brofiad o gynhyrchu ffilmiau proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer darlledu, busnes, hysbysebu a marchnata digidol ar y we.  Fel rhan o’u strategaeth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, rhannodd Picturehouse gynghorion a thriciau gwych er mwyn gwella ansawdd ac effaith delweddau a chlipiau fideo er mwyn hyrwyddo brand ac/ neu wasanaethau sefydliadol. 

Dywedodd Kate Oldfield, cynhyrchydd gyda Picturehouse Films:

“Mae Fideo mor boblogaidd bellach – a dyma y ffordd fwyaf pwerus i gyfathrebu, os ydych yn ei wneud yn iawn.  Mae Picturehouse yn dîm o weithwyr ffilm a theledu proffesiynol llwyddiannus. Rydym wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd. Ac mae’n bleser gennym rannu ein gwybodaeth. Mae’r sesiynau’n llawn hwyl, cyfeillgar ac yn llawn dop o wybodaeth. Mae’n anodd gwneud yn siwr fod eich neges yn cael ei chlywed dros yr holl swn fideo, gall ychydig o gynghorion wneud gwahaniaeth mawr.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’n dda gweld busnesau lleol llwyddiannus yn cynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy gynnal gweithdai llwyddiannus fel hwn. Byddwn yn sicr yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle i wneud unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol – mae hefyd yn ffordd wych o rwydweithio gyda mentrau cymdeithasol eraill yn Sir y Fflint.”

Gyda mentrau cymdeithasol o bob cwr o’r sir yn bresennol, roedd yr hyfforddiant ar ffurf cyflwyniadau, enghreifftiau ymarferol a darluniadau wedi’u darperu gan y tîm hynod brofiadol yn Picturehouse Films. 

Dywedodd Sarah Way, Cyfarwyddwr yn RainbowBiz CIC:

“Roedd yr hyfforddiant cyfryngau yn arbennig o ddefnyddiol a rhoddodd rhywbeth i ni gnoi cil arno o ran dyfodol RainbowBiz CIC. Rydym eisoes wedi rhoi rhai o’r cynghorion a’r technegau a ddysgom ar waith, ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth dynnu lluniau yn ogystal â chlipiau fideo a ffilm i helpu marchnata RainbowBiz Hippy Shop yn yr Wyddgrug.”

Dywedodd Cat Harvey-Aldcroft, Rheolwr yn Dangerpoint:

“Roeddwn yn meddwl fod y sesiwn yn un gwerth chweil – mae’n wych fod Cyngor Sir y Fflint yn gallu cynnig y cyfle i fentrau cymdeithasol fel ni yn DangerPoint i ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigwyr yn y maes. Rwy’n gobeithio y gallwn ni barhau â’r bartneriaeth a datblygu’r sgiliau rydym wedi eu dysgu.” 

Jon Cotcher Picturehouse Films.jpg

 

 

 

 

John Cotcher o Picturehouse Films

 

 

 

 

 

Picturehouse Training dec 19.jpg

 

o’ch chwith i’r dde; Mike Dodd, Swyddog Arweiniol Mentrau Cymdeithasol CSyFf, Sue Oliver a Sarah Way o RainbowBiz CIC, Kate Oldfield, Alice Oldfield a John Cotcher o Picturehouse Films, Francesca Sciarrillo - Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a Cat Harvey-Aldcroft Dangerpoint