Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfnod cyffrous yn Queensferry

Published: 09/01/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael arian ar gyfer ail fodelu’r ysgol gynradd ac ar gyfer adeiladau newydd sbon ar gampws Queensferry ar Chester Road. 

Bydd y prosiect yn darparu ysgol gynradd 3 – 11 oed wedi ei hailwampio ar gyfer hyd at 180 o ddisgyblion llawn amser ar gampws cyffrous Queensferry ac hefyd yn darparu adeilad newydd ar gyfer Plas Derwen ar gyfer hyd at 97 o’n dysgwyr mwyaf bregus rhwng 4 ac 16 oed sy’n cael trafferth cael mynediad at addysg prif ffrwd, ac sydd angen ymyrraeth arbenigol ar gyfer eu heriau ymddygiad, cymdeithasol ac emosiynol.   

Mae’r contract ar gyfer y gwaith wedi ei ddyfarnu i Kier Construction. 

Bydd yr ysgol gynradd wedi ei hailwampio ac adeilad newydd Plas Derwen ar yr un safle.  

Mae’r prosiect hefyd wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad cyfalaf drwy Lywodraeth Cymru er mwyn hwyluso datblygiad hwb dysgu cymunedol newydd ar gampws Queensferry.  Bydd yr hwb dysgu cymunedol yn ymgorffori nifer o gyfleusterau fydd yn darparu cyfleoedd dysgu i bobl ifanc ac oedolion bregus, yn ogystal â gwasanaethau ymyrraeth, darpariaeth dechrau’n deg, defnydd cymunedol ac adnoddau clwb chwaraeon cymunedol mewn un lleoliad.  Cafwyd peth arian ychwanegol gan Dechrau’n Deg ac Undeb Rygbi Cymru hefyd. 

Cyfanswm y buddsoddiad yw £10,579,740. 

Dathlwyd y cyhoeddiad hwn yn ddiweddar ar y campws gan aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint yn ogystal â phennaeth a disgyblion Ysgol Queensferry, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, pennaeth Plas Derwen, Ymddiriedolaeth Cymuned Glannau Dyfrdwy a chynrychiolwyr o Kier ac EWA Architects.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd y broses hon o foderneiddio’r ysgol a’r adeilad newydd ar gyfer Plas Derwen o safon uchel, a bydd yn darparu cyfleusterau cyfoes o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd dysgu gorau i’n plant.  Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i weithio i ddarparu addysg cynaliadwy o safon uchel i’n holl ddysgwyr.  Rydw i’n edrych ymlaen at weld gwaith ar y prosiect cyffrous hwn yn cychwyn ar y safle.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: 

“Mae hwn yn gyhoeddiad cyffrous ac yn enghraifft arall o sut mae Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar addysg a dysgu. 

“Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol, ac mae’n Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif yn chwarae rôl allweddol yn hyn. 

“Mae’r buddsoddiad hwn yn hollol angenrheidiol os ydym am ddarparu’r amgylchedd dysgu y mae ein  disgyblion yn eu haeddu, yn ogystal â’u cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau.” 

Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr Kier Regional Building North West: 

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r prosiect hanfodol hwn ar gyfer y gymuned leol. Drwy prosiectau blaenorol gyda’r cyngor, rydym wedi sefydlu perthynas gref gyda’r gadwyn gyflenwi leol, a byddwn yn defnyddio honno drwy gydol y prosiect hwn. 

“Yn ystod ein perthynas hir gyda’r Cyngor rydym wedi cyflawni nifer o brosiectau yn y rhanbarth gan gynnwys Hwb Cyfle, canolfan gofal dydd i oedolion yn Queensferry – ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hon.” 

Queensferry CP (11 of 11).jpg