Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogwr Lluoedd Arfog Newydd Sir y Fflint

Published: 22/04/2015

Mae gan Gyngor Sir y Fflint Gefnogwr Lluoedd Arfog newydd. Mae’r Cynghorydd Andy Dunbobbin wedi derbyn y rôl bwysig gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton. Bydd y Cynghorydd Dunbobbin yn goruchwylio Cyfamod Cymunedol y Cyngor. Mae’r Cyfamod Cymunedol, a gytunwyd arno ym mis Ionawr 2013 a’i lofnodi ym mis Gorffennaf 2013, yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng cymuned sifil a chymuned lluoedd arfog Sir y Fflint. Maer Cyfamod yn ymagwedd aml-asiantaeth rhwng y Cyngor, y Lluoedd Arfog yn Sir y Fflint a chynrychiolwyr or sectorau elusennol a gwirfoddol, y sector cyhoeddus, y gymuned fusnes, a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ei nod yw sicrhau na fydd unrhyw aelod syn gwasanaethu neu gyn-filwr or Lluoedd Arfog, boed yn y fyddin reolaidd neu’r warchodfa, nau teuluoedd, yn cael eu rhoi dan anfantais wrth gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus; ac y dylent gael eu trin yn deg ac yn briodol i gydnabod eu hymrwymiad. Mae hefyd yn ategu’r cyfamod Lluoedd Arfog cenedlaethol sy’n amlinellu’r rhwymedigaeth foesol rhwng y genedl, y llywodraeth a’r Lluoedd Arfog. Mae Cyfamod Cymunedol y Sir yn cynnwys llyfrgell ar-lein o sefydliadau a thudalen we dynodedig er mwyn darparu cymorth a chefnogaeth i aelodau or gymuned Lluoedd Arfog au teuluoedd. Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin: “Mae’n anrhydedd gen i ymgymryd â rôl Cefnogwr Lluoedd Arfog Sir y Fflint. Rydw i eisoes yn ymgysylltu â chymunedau, busnesau a sefydliadau elusennol i gefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog, gydar nod o nodi a chael mynediad i gyfleoedd ariannu a fydd o fudd iddyn nhw.” Mae digwyddiad Cyfamod Corfforaethol Lluoedd Arfog i fudd-ddeiliaid wedi ei drefnu ar gyfer 10 Gorffennaf. Bydd hwn yn gyfle i hyrwyddor Cyfamod Corfforaethol, sef addewid gwirfoddol ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan fusnesau a sefydliadau elusennol syn dymuno dangos eu cefnogaeth.