Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Gwerth Cymdeithasol

Published: 17/01/2020

Pan fydd yn cyfarfod ar 21 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni'r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2019. Gofynnir i Aelodau'r Cabinet hefyd gymeradwyo'r Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft.

Mae gan y Cyngor ymrwymiad i sicrhau mwy o werth cymdeithasol trwy'r gwaith y mae'n ei wneud; mae hyn yn golygu cael mwy o fuddion i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i'w wariant a'i wasanaethau. Yn ddiweddar, penododd y Cyngor Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol i yrru'r agenda hon yn ei blaen, a bydd y Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol yn creu fframwaith galluogi i gryfhau'r dull o gynhyrchu gwerth cymdeithasol trwy'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu prynu.

Bydd y prif flaenoriaethau ar gyfer darparu gwerth cymdeithasol yn ystod y 12 mis nesaf yn cynnwys:

• cefnogaeth i raglen tlodi bwyd Sir y Fflint;

• lleihau tlodi tanwydd;

• cefnogaeth i leihau'r defnydd o ynni a gwastraff;

• cefnogaeth i Gyfamod y Lluoedd Arfog;

• hyrwyddo cyfle cyfartal;

• darparu cyfleoedd prentisiaeth a phrofiad gwaith;

• cynyddu'r defnydd o gwmnïau lleol yn y gadwyn gyflenwi;

• lleihau digartrefedd;

• cefnogi mentrau sy'n gyfeillgar i ddementia; a

• chefnogaeth i gyflogaeth i bobl ifanc ar yr ymylon ac i blant sy'n derbyn gofal.

Bydd y cyngor yn cyflawni'r rhain trwy’r nodau tymor hir o: 

• caniatáu i sefydliadau'r trydydd sector ddangos y gwerth cymdeithasol a gynhyrchir trwy eu gwaith a fydd yn eu helpu i sicrhau adnoddau a chontractau;

• annog cwmnïau lleol a rhanbarthol i gryfhau eu dulliau o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol; a

• cefnogi rheolwyr gwasanaeth y sector cyhoeddus i ehangu eu hymwybyddiaeth o effeithiau eu gwaith ar y gymuned.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Billy Mullin:

“Ar hyn o bryd, mae gwerth cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu yn bennaf trwy gontractau mwy sy'n werth mwy na £1m. Mae gan gyflenwyr a chontractwyr mwy brofiad sylweddol o gynhyrchu gwerth cymdeithasol. Bydd y Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft yn herio rheolwyr gwasanaeth i feddwl yn fras am y gwasanaethau a'r nwyddau sy'n cael eu caffael ac ystyried sut y gellid cynhyrchu gwerth cymdeithasol ehangach. 

“Bydd sicrhau mwy o werth cymdeithasol yn offeryn allweddol wrth helpu’r Cyngor i ddangos sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei chyflawni ar lawr gwlad. Mae gweithredu'r Strategaeth hefyd yn rhoi cyfle i adeiladu arfer da ar draws partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lle mae cryn ddiddordeb mewn cydweithio ar ddatblygu gwerth cymdeithasol.”

Mae rhai llwyddiannau hyd yma yn cynnwys:

• Datblygiad y Ganolfan Gofal Dydd i Oedolion newydd yn Queensferry. Roedd y gwerth cymdeithasol ychwanegol a gynhyrchwyd trwy'r prosiect yn cynnwys:

• 610 o fyfyrwyr ysgol neu goleg yn ymweld â'r safle adeiladu fel rhan o'u hastudiaethau;

• 6 swydd wedi'i chreu;

• Cefnogwyd 15 lleoliad profiad gwaith;

• 6 cyfle prentisiaeth wedi'u creu; a

• Darparwyd 18 cyfweliad cyflogedig i ymgeiswyr difreintiedig.

• Darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni domestig ar gyfer cartrefi sy'n brin o danwydd yn cynnwys contract a gaffaelwyd o £900k rhwng y Cyngor a'r cwmni lleol Wall-lag. Mae'r gwerth cymdeithasol ychwanegol a gynhyrchir trwy'r prosiect yn cynnwys:

• Mae un person ifanc lleol, sy'n gleient i raglen gyflogaeth y Cyngor, wedi'i gyflogi ar brentisiaeth drydanol tair blynedd;

• mae'r holl staff a gyflogir i gyflawni'r contract yn byw yn yr isranbarth;

• Bydd Wall-lag yn darparu'r hyn sy'n cyfateb i 0.5% o'r holl wariant a wneir trwy'r contract fel cronfa argyfwng ar gyfer gwella cartrefi'r rhai mwyaf diamddiffyn yn Sir y Fflint.

Mae gan y Cyngor nifer o gyfleoedd mawr i sicrhau gwerth cymdeithasol sylweddol y bydd angen eu cynnwys yn y rhaglen am y 12 mis nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys:

• caffael tir i adeiladu cartrefi Cyngor yn y dyfodol;

• ailddatblygu Theatr Clwyd;

• Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;

• ehangu Ty Marleyfield; a

• buddsoddiad gan Aura yn y dyfodol.

Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda chyflenwyr a chontractwyr i sicrhau bod buddion diriaethol yn cael eu cyflawni tuag at y themâu hyn, a sicrhau bod buddion clir i bobl Sir y Fflint yn cael eu gwireddu.