Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn chwifio’r faner

Published: 06/02/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codi'r faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn ystod mis Chwefror. 

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a'r mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. 

Mae hyn hefyd yn adeg i gofio am y camwahaniaethu y mae llawer wedi’i wynebu a’r siwrnai a wnaed tuag at gydraddoldeb LGBT. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol a Phencampwr Diogelu’r Cyngor:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi mis hanes LGBT unwaith eto. Mae chwifio'r faner drwy gydol mis Chwefror yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a'n cymuned ehangach”.

Y thema eleni yw Barddoniaeth, Rhyddiaith a Dramâu. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan http://lgbthistorymonth.org.uk/.

LGBT Flag (1 of 1).jpg