Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhagor o le barcio i barc lleol

Published: 31/01/2020

Mae cyfleusterau parcio ym Mharc Wepre yn cael eu hymestyn ar hyn o bryd, fel datrysiad dros dro i ddatrys mater am barcio ceir ar frys, yn dilyn twf ym mhoblogrwydd y parc gyda phobl leol ac ymwelwyr o du allan y Sir.   

Mae’r gwaith yn cynnwys gosod haen o decstil a cherrig mân wedi'u cywasgu i ffurfio'r arwyneb parcio dros dro.

Mae Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas, ynghyd ag aelodau lleol y ward yn croesawu'r estyniad, a chyflymder cydweithio rhwng swyddogion a chontractwyr i ddatrys y broblem, gan ddefnyddio ychydig o arian mantais gymunedol. 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas:

“Cyn gynted rydym yn diogelu digon o nawdd grant, bydd yr estyniad dros dro yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ac yna’n cael ei wneud yn barhaol. Efallai bydd gwaith pellach a lleoedd parcio yn cael eu darparu pan mae arian y grant yn caniatáu, gan dynnu’r ynys yn y maes parcio a diffinio lleoedd parcio i ddefnyddio'r ardal sydd ar gael yn llawn."

Meddai’r Cyng. Paul Shotton:

“Ar ôl siarad efo ymwelwyr a thrigolion, maen nhw’n hapus a dyma’r ateb gorau.” 

Group 3.JPG Car park.jpg