Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2020

Published: 31/01/2020

Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, hoffa Cyngor Sir y Fflint eich atgoffa i adnewyddu’ch tanysgrifiad ar gyfer y casgliad gwastraff gardd sy’n ailddechrau 2 Mawrth, 2020 ac yn cael ei gynnal tan ganol mis Rhagfyr 2020.

Gall preswylwyr gofrestru unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal â'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael cyn 29 Chwefror. Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn, neu ar-lein drwy gydol y tymor, yn £32 fesul bin. Ar ôl 1 Mawrth, 2020, bydd pris sylfaenol o £35, os nad ydych yn talu ar-lein.

Gall cwsmeriaid newydd gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth unrhyw bryd, drwy ymweld â'r wefan, neu drwy ein ffonio ar 01352 701234; bydd ffioedd yn parhau i fod yr un fath fodd bynnag.

Eleni, byddwn yn symud i system dag yn hytrach na sticer ar gyfer eich casgliadau gwastraff gardd yn y bin brown.  Mae’r tagiau yn felyn ac maent yn dangos logo “F” Sir y Fflint a rhif cyfresol unigryw.  Caiff y tagiau eu hanfon yn uniongyrchol at breswylwyr gyda chyfarwyddiadau sut i glymu’r tag i’r biniau brown.  Rhaid clymu’r tagiau i ddolen y bin brown a rhaid sicrhau bod modd i’r criw casglu ei weld yn glir, neu efallai na chânt eu casglu.  Ni fydd y Cyngor yn casglu biniau gwastraff gardd heb dag dilys wedi’i glymu iddo.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus llynedd, rydym yn annog rhagor o breswylwyr i gofrestru’n gynnar ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd hwn, ac elwa o’r pris gostyngol o £32 os ydynt yn cofrestru cyn 29 Chwefror, neu ar-lein.  Mae’r gwastraff gardd sy’n cael ei gasglu yn cael ei gompostio’n lleol yn y Sir, ac yn cyfrannu i’n targedau ailgylchu cenedlaethol. Llynedd, fe gasglom ni dros 9,800 tunnell o wastraff gardd, ac rydym yn casglu o dros 33,000 o dai.  Rydym am sicrhau ein bod yn annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff gardd.”

Mae'r holl wastraff gardd yn cael ei gompostio yn ein cyfleuster ym Maes Glas, Treffynnon, ac fe anogir i bobl roi rhisgl, gwair, tociadau, torion gwrych, brigau a changhennau bach i mewn i’r biniau gwastraff gardd.  Nid ellir defnyddio’r biniau ar gyfer gwastraff ffrwythau a llysiau, gwastraff bwyd, cardfwrdd, papur, pridd a rwbel na gwasarn anifeiliaid, gwellt anifeiliaid a gwastraff anifeiliaid.