Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Uwchraddio blocdyrau yn y Fflint yn paratoir ffordd ar gyfer datblygiad canol tref newydd

Published: 29/04/2015

Uwchraddio blocdyrau yn y Fflint yn paratoir ffordd ar gyfer datblygiad canol tref newydd. Bydd blocdyrau yn y Fflint, sy’n cynnwys 270 o fflatiau, yn cael eu huwchraddio’n sylweddol fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol y Cyngor Sir i adfywior dref. Bydd y gwaith, sydd ar raddfa fawr, yn cael ei wneud gan SERS Energy Solutions Ltd, sydd wedi derbyn y contract gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd y gwaith yn rhan o gynllun uwchraddio cyffredinol gwerth £100 miliwn i wella stoc tai cyngor y sir. Bydd SERS Energy Solutions Ltd yn atgyweirio’r concrit, yn inswleiddio waliau allanol ac yn inswleiddio’r to i gynyddur hirhoedledd ac i wella effeithlonrwydd ynnir adeiladau. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys newid miloedd o ffenestri gwreiddiol, a fydd yn her logistaidd o ran ceisio cydlynu crefftwyr gwahanol mewn man agored iawn. Adeiladwyd y tri thwr yn y 1960au ar 1970au ochr yn ochr âr fflatiau deulawr, sy’n cael eu dymchwel i wneud lle ar gyfer rhai o’r 500 o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu gan y Cyngor ar draws y sir. Maer Cyngor yn ddiweddar wedi ennill gwobr a chydnabyddiaeth genedlaethol am ei ddulliau arloesol o ddiwallu anghenion tai drwy lansio cwmni tai fforddiadwy, sef Tai Gogledd-Ddwyrain Cymru (NEW Homes). Maen parhau i geisio sicrhau bod y tai presennol yn cyrraedd y safon a, lle bo angen, yn cyflwyno datrysiadau tai newydd. Maer blocdyrau yn asedau poblogaidd iawn a bydd y gwaith yma’n sicrhau bod tenantiaid yn mwynhau cartrefi cynnes, cyfforddus a fforddiadwy. Bydd SERS Energy Solutions Ltd, o dde Cymru, yn cael eu cefnogi gan Knauf ac IKO Plc a fydd yn cyflenwi deunyddiau. Mae disgwylir i’r contract yma greu 20 i 30 o swyddi yn ogystal â chefnogi ffatri Knauf yng Nglannau Dyfrdwy gerllaw. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Y contract yma yw cam cyntaf datblygiad canol tref newydd y Fflint ac mae’n dangos gweledigaeth y Cyngor i adfywio cymunedau. Maer Cyngor yn rhagweld y bydd y gwaith yn dechrau ar Richard Heights y gwanwyn yma. Bydd tenantiaid yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud drwy gydol y cynllun, gan gynnwys ar gynllun terfynol y blociau. Mae SERS yn arbenigwyr dylunio, cyflenwi a gosod datrysiadau arbed ynni. Maen nhw’n gweithio mewn cydweithrediad âu cleientiaid er mwyn eu helpu i wneud dewis gwybodus ynghylch y ffordd orau o wella perfformiad ynni eiddo. Mae croeso i drigolion neu denantiaid sydd â diddordeb mewn lleihau eu costau ynni gysylltu â phartneriaid y Cyngor, sef Canolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru, yn rhad ac am ddim ar 0800 954 0658. Llun: Llun y tu allan i Richard Heights yn y Fflint gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint - gan gynnwys y Cyng. David Cox, y Cyng. Alex Aldridge, y Cyng. Bernie Attridge, y Cyng. Helen Brown, a Clare Budden, Prif Swyddog, Cymuned a Menter; a chynrychiolwyr o SERS Energy Solutions Ltd.