Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


“DRT” cyntaf Sir y Fflint yn cael ei gyflwyno

Published: 11/02/2020

Yn ddiweddar, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Wasanaeth Seiliedig ar Alw (DRT) yn ardal Bwcle ac mae’n eithriadol o boblogaidd gyda phreswylwyr. 

Bydd y DRT yn cael ei gyflwyno ym mhob ardal wledig o’r Sir lle nad oes gwasanaethau masnachol ar gael. Mae’n darparu cysylltiadau gwerthfawr i drigolion â gwasanaethau trafnidiaeth, ynghyd â Rhwydwaith Craidd Sir y Fflint, a bydd yn gweithredu yn defnyddio un o gerbydau 16 sedd nodweddiadol Sir y Fflint sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.  

Mewn bore goffi diweddar yng Nghanolfan Gymunedol yr Hôb, Sir y Fflint roedd swyddogion ac aelodau o Sir y Fflint wrth law i gyflwyno’r cynllun ac i ateb unrhyw gwestiynau. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae’n wych bod yma heddiw i gyflwyno’r gwasanaeth arloesol yma.  Mae’n wasanaeth y gallwch ei archebu ymlaen llaw ac mae angen i bobl gofrestru er mwyn gallu ei ddefnyddio.   Y ffi gofrestru flynyddol yw £10.00. Fodd bynnag, caiff teithwyr sydd ar y gofrestr ar gyfer y gwasanaeth Ffonio a Theithio Cymunedol ar gyfer mynd i apwyntiadau meddygol eu cofrestru am ddim.” 

Gallwch gofrestru ac archebu drwy ffonio’r llinell archebu ar 01352 704771. Caiff teithwyr eu casglu o leoliad sy’n gyfleus iddynt a’u cludo i fan allweddol neu safle bws ar hyd y rhwydwaith craidd.    Efallai y bydd siwrneiau’n cael eu cydlynu gyda siwrneiau teithwyr eraill er mwyn sicrhau y bodlonir y nifer mwyaf o deithwyr am gost o £1.70 y siwrnai. Derbynnir Cardiau Teithio Rhatach Cymru ar y gwasanaeth. 

Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng 9am-3pm a 4.30pm-5.30pm, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn. 

Hope Community Transport (1 of 3).jpg