Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgysylltu â Chwsmeriaid ynghylch Ail-ddylunio'r Wefan

Published: 07/02/2020

website redesign.jpgRydym ni’n ailwampio ein gwefan, hoffech chi helpu? 

Mae ein gwefan yn sianel bwysig i’n helpu ni ddarparu gwasanaethau modern ac effeithlon sydd ar gael yn hwylus i’n cwsmeriaid, pryd bynnag a lle bynnag. Mae arnom ni eisiau grymuso cleientiaid i ddefnyddio gwasanaethau a derbyn yr wybodaeth sydd arnynt eu hangen ar-lein, ac mae arnom ni eisiau syniadau ein cwsmeriaid ynghylch sut dylai’r wefan edrych.

Bydd hyn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu manteisio ar holl fuddion ein gwasanaethau ar-lein. Rydym ni’n bwriadu cynnal nifer o sesiynau byr yn yr Wyddgrug ac Ewlo, gan wahodd cwsmeriaid i rannu eu syniadau er mwyn i’n gwefan newydd fod yn hygyrch a chynhwysol, a chefnogi cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau digidol.

Os hoffech chi rannu eich syniadau ynghylch sut y gallwn ddarparu gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein mewn modd hawdd ei ddefnyddio, cysylltwch â ni trwy lenwi'r ffurflen ar ein gwefan siryfflint.gov.uk/Ail-ddylunio'rWefan