Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedaun Gyntaf yn cynnig cyrsiau am ddim
  		Published: 27/04/2015
Wyddoch chi fod Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf Glannau Dyfrdwy yn cynnig amrywiaeth 
eang o  gyrsiau ardystiedig?
Hoffech chi ddysgu Cymraeg neu wella’ch sgiliau Cymraeg? Hoffech chi gyngor 
i’ch helpu chi mewn cyfweliadau, neu i’ch helpu chi i fagu hyder? Beth am 
ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf? 
Mae’r cyrsiau gan Gymunedau’n Gyntaf yn cynnwys Gweinyddiaeth Busnes; Cymraeg 
lefel  un a dau; Iechyd a Diogelwch lefel dau; Cymorth Cyntaf lefel dau, 
Cymorth Cyntaf i Blant; Magu Hyder; sgiliau cyfweliad; sgiliau gwerthu; sgiliau 
cyfrifiaduron sylfaenol; a Diogelwch Bwyd lefel dau. 
Cyrsiau undydd yw’r rhan fwyaf ohonynt a chewch dystysgrif ar ôl eu cwblhau. 
Cânt eu cynnal yn lleol yn ardal Queensferry a Chei Connah.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Christine, Cymunedau’n Gyntaf ar 01244
846090.