Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Prosiect Archif ar y Cyd yn y ras am Wobrau Treftadaeth Gorwelion 

Published: 27/02/2020

Mae prosiect Archifau Creadigol Sir y Fflint a Sir Ddinbych ar y rhestr fer am Wobrau Treftadaeth Gorwelion – gyda chyfle i gystadlu am gyfran o £50m. 

Mae prosiect Archifau Creadigol wedi ei wneud o dair elfen:

  • cyfuno grwpiau staff i gydweithio fel un tîm cydlynol o Ebrill 2020;
  • adeiladu un cyfleuster canolog o’r radd flaenaf sy’n amgylcheddol gyfeillgar i gartrefu'r archifau ger Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug;
  • darparu rhaglen weithgaredd sy’n torri tir newydd a sy'n arwain at gynyddu’r nifer o bobl mae’r archifau yn eu cyrraedd, a hefyd pobl amrywiol. 

Nid yw’r cyfleuster canolog arfaethedig wedi ei gadarnhau, gan y bydd angen cyflwyno cais am gyllid ac ni fydd y canlyniad yn hysbys tan y flwyddyn nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae’n newyddion gwych fod y prosiect arloesol hwn wedi cyrraedd y rhestr fer ac mae'n gyffrous fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gweld y potensial am ganolbwynt diwylliannol a fydd yn apelio at gynulleidfa ehangach ac a fydd yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r DU a'r byd i Ogledd Cymru. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i'r prosiect hwn ac yn llwyr gefnogol iddo.

“Fe fydd y ddau wasanaeth archifau yn uno o fis Ebrill eleni, gan weithredu i ddechrau o ddau safle presennol archifau yn Yr Hen Reithordy, Penarlâg a Charchar Rhuthun, gan symud maes o law i gyfleuster newydd a fydd o'r radd flaenaf. Fe fydd ein treftadaeth mewn gwell cyflwr o ganlyniad i amodau storio, a gofodau rheoli casgliadau a chadwraeth o’r radd flaenaf.”

Mae’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn cytuno:

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu’n fawr ac yn dystiolaeth o waith caled ein swyddogion yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Fe fydd y defnydd o ddogfennau ac arteffactau hanesyddol fel sail ar gyfer adrodd straeon a pherfformiad yn rhan nodedig ac arloesol o'r rhaglen weithgareddau i ennyn diddordeb ystod ehangach o bobl nad ydyn nhw, o bosibl, erioed wedi ystyried ymweld ag archifdy o'r blaen. 

“Fe fydd y prosiect yn mynd i’r afael â phroblemau gyda’r adeiladau presennol – mae’r ddau yn hen adeiladau rhestredig nad ydynt yn bodloni safonau'r diwydiant, maent yn ddrud i'w cynnal ac nid oes ganddynt lawer o le i addasu.”  

Yn ddibynnol ar sicrhau cyllid allanol fe allai adeiladu'r adeilad newydd ddechrau yn 2023 ac fe allai'r adeilad newydd gael ei agor yn 2025. 

Mae disgwyl i'r prosiect cyfan, gan gynnwys cynllunio ac adeiladu'r adeilad a'r arian i wella ac ehangu'r gwasanaethau archif a ddarperir i’r cyhoedd, gostio tua £16.6 miliwn. Byddai 70% o gyfanswm y gost yn cael ei dalu o bosibl gan gynnig llwyddiannus i Gronfa Treftadaeth y Loteri, a byddai angen i'r ddau Gyngor ariannu’r 30% sy’n weddill.

Dywedodd Eilish McGuinness, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chadeirydd Panel Gwobrau Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri:  

“Fe ofynnom am brosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsffurfiol, nid dim ond ar gyfer treftadaeth ond ar gyfer pobl a chymunedau hefyd. Roedd y panel yn llawn edmygedd ac wedi ei ysbrydoli â’r hyn a welodd.

“Rydym yn hynod gyffrous ynglyn â cham nesaf y broses ac fe fyddwn nawr yn gweithio gyda'r prosiectau cyn y cais am gyllid datblygu yn ddiweddarach eleni."

Mae gan y deuddeg prosiect sydd ar y rhestr fer hyd at fis Tachwedd 2020 i ymgeisio am gyllid datblygu, gyda’r penderfyniadau yn cael eu gwneud yn nechrau 2021. Fe fyddant yn ymgeisio am y cyntaf o ddau set o £50m ac fe fydd ganddynt hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynigion cyflawni. Bydd y gwobrau cyllido llawn yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Cronfa Dreftadaeth y Loetri.

 

 

3D concept sketch.jpg