Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hyfforddiant am ddim i fusnesau yn Sir y Fflint

Published: 04/03/2020

Darparodd Tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Picturehouse Films ail weithdy hyfforddi am ddim i fusnesau lleol ar draws Sir y Fflint.

Mae Picturehouse yn gwmni sector preifat gyda dros 30 mlynedd o brofiad o gynhyrchu ffilmiau proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer darlledu, busnes, hysbysebu a marchnata digidol ar y we.  Fel rhan o’u strategaeth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, rhannodd Picturehouse gynghorion a thriciau gwych er mwyn gwella ansawdd ac effaith delweddau a chlipiau fideo er mwyn hyrwyddo brand ac/ neu wasanaethau sefydliadol.

Dywedodd Kate Oldfield, cynhyrchydd gyda Picturehouse Films:

 “Mae Fideo mor boblogaidd bellach – a dyma y ffordd fwyaf pwerus i gyfathrebu, os ydych yn ei wneud yn iawn.  Mae Picturehouse yn dîm o weithwyr ffilm a theledu proffesiynol llwyddiannus. Rydym wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd. Ac mae’n bleser gennym rannu ein gwybodaeth. Mae’r sesiynau’n llawn hwyl, cyfeillgar ac yn llawn dop o wybodaeth. Mae’n anodd gwneud yn siwr fod eich neges yn cael ei chlywed dros yr holl swn fideo, gall ychydig o gynghorion wneud gwahaniaeth mawr.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’n dda gweld busnesau lleol llwyddiannus yn cynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy gynnal gweithdai llwyddiannus fel hwn. Byddwn yn sicr yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle i wneud unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol – mae hefyd yn ffordd wych o rwydweithio gyda mentrau cymdeithasol eraill yn Sir y Fflint.”