Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Arbed Ynni Domestig

Published: 12/03/2020

Bydd Aelodau’r Cabinet yn clywed am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud i gefnogi teuluoedd sy’n dlawd o ran tanwydd yn Sir y Fflint a bydd gofyn iddyn nhw barhau i gefnogi’r gwaith hwn fel blaenoriaeth i’r Cyngor wrth gyfarfod nesaf ar 17 Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru’n diffinio teulu fel un sy’n byw mewn tlodi tanwydd os ydynt yn gwario mwy na 10% o’u hincwm ar gostau ynni ac mae hwn yn faes gweithredu sy’n cael blaenoriaeth gan Gyngor Sir y Fflint. Yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan y Cyngor yn 2017, roedd amcangyfrif bod 20.7% o deuluoedd mewn tlodi tanwydd a 3.4% mewn tlodi tanwydd difrifol. Roedd hyn yr un fath â chyfraddau cyfartalog cyffredinol Cymru ar y pryd.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae tîm y Rhaglen Arbed Ynni Domestig wedi gosod 600 o fesurau arbed ynni mewn 4,000 o gartrefi yn Sir y Fflint – buddsoddiad o tua £12 miliwn, sy’n arbed dros £1.2 miliwn y flwyddyn i drigolion. Roedd hefyd yn amcangyfrif y bydd y mesurau hyn yn arbed dros 123,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod eu hoes weithredol.  

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn, iawn i wella bywydau rhai o’n trigolion mwyaf diamddiffyn. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ar sail ennill ffioedd, gan dalu ei holl gostau gweithredu trwy godi ar sefydliadau a chyrff ariannu eraill am y gwaith mae’n ei wneud.

“Maen nhw’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu â theuluoedd cymwys – hyrwyddo’n uniongyrchol, mynd i ddigwyddiadau, gweithio mewn partneriaeth a hyrwyddo ar lafar, sy’n benodol bwysig gan mai’r teuluoedd mwyaf diamddiffyn yw’r rhai sydd wedi bod leiaf tebygol o ddod at y tîm i ofyn am help.”

Daeth yr arolwg i’r canlyniad bod tlodi tanwydd yn tueddu i fod yn fwy o broblem mewn cartrefi oedd ag incwm is ac ymysg pobl hyn. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r bobl hyn i ennyn eu hyder, ymgeisio am y cyfuniad cywir o gyllid ar eu rhan (sy’n aml yn eu galluogi i gael gwelliannau i’w tai am ddim) a rheoli’r gwaith gwella trwy gontractwr mae’r Cyngor wedi’i benodi. Mae’r broses cymorth dwys yma’n galluogi i hyd yn oed y cartrefi mwyaf diamddiffyn gael gwelliannau i’w cartref a lleihau eu risg o dlodi a gwella ansawdd eu bywyd yn sylweddol.

Mae rhai o’r sylwadau gan gwsmeriaid bodlon yn cynnwys: 

  • “mae’r system wresogi newydd yn un mor foethus! Fyddwn i ddim wedi goroesi’r Nadolig heb yr help yma.”
  • “Mae’r cynllun yn arbennig. Mae o wedi gwneud llawer o wahaniaeth i mi. Gyda’r gaeaf ar ddod, rydw i bellach yn teimlo’n fwy hyderus y bydd y gwres yn gweithio.”

Mae’r prif raglenni gwaith sy’n cael eu cyflawni gan y tîm ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • ymestyn y rhwydwaith prif gyflenwad nwy (ar y cyd â Wales and West Utilities) i Ffynnongroyw er mwyn galluogi trigolion i gael dewis o systemau gwresogi nwy mwy effeithlon;
  • cefnogi cyflawni rhaglen Arbed Llywodraeth Cymru sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd ym Mostyn a Phenyffordd;
  • gwella effeithlonrwydd ynni tai Cyngor a rheoli’r rhaglen gosod ac adnewyddu boeleri nwy;
  • cyflawni rhaglen Cronfa Cartrefi Cynnes 2018-21 yn Sir y Fflint;
  • gosod £3 miliwn o systemau gwresogi effeithlon mewn cartrefi tlawd o ran tanwydd;
  • moderneiddio’r systemau gwresogi yng nghartrefi Cymdeithas Dai Clwyd Alyn yn Sir y Fflint;
  • cefnogi rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach sy’n cael ei chyflawni gan Gymru Gynnes i gysylltu’r rhaglenni ynni â rhaglenni cymorth ehangach i ddiwallu anghenion teuluoedd, gan gynnwys iechyd a chynyddu incwm;
  • darparu cyngor ar arbed ynni i gartrefi a chyngor ar gael y prisiau gorau am ynni gan gyflenwyr; a
  • darparu cronfa argyfyngau bach sy’n ariannu gwelliannau i gartrefi’r teuluoedd mwyaf diamddiffyn pan nad oes modd dod o hyd i unrhyw ffynhonnell gyllid arall.

Mae tîm y Rhaglen Arbed Ynni Domestig yn rhan o waith ailstrwythuro ehangach sy’n cael ei wneud i’r gwasanaeth. Bydd y tîm yn dod yn dîm Adfywio Tai sydd hefyd yn mynd i’r afael â chyflwr tai’r sector preifat yn ehangach ac sy’n gweinyddu rhaglen benthyciadau ar gyfer y cartref gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gwaith ailstrwythuro hwn wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2020.