Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Disgybl o Ysgol Argoed yn cael cydnabyddiaeth yn Neuadd y Sir

Published: 23/04/2015

Mae disgybl blwyddyn deg o Ysgol Uwchradd Argoed,  Mynydd Isa wedi cael cydnabyddiaeth gan Gyngor Sir y Fflint am gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Gwobrau Mandarin Cyngor Prydeinig HSBC. 15 oed yw Charlie Greenall ac mae’n astudio Mandarin ers deunaw mis. Ysgol Uwchradd Argoed oedd yr unig ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cyngor Prydeinig HSBC, a hynny yn y cystadlaethau ar gyfer timau ac unigolion. Daeth Charlie i’r brig yn ei rownd hi yn y gystadleuaeth i unigolion gan gyrraedd y rownd derfynol a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain fis  Chwefror. Daeth Charlie a’i  phennaeth, Dawn Spence, i Neuadd y Sir yn ddiweddar lle cafodd llwyddiant Charlie ei gydnabod mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor Sir. Meddai Charlie: “Dechreuais ddysgu Mandarin yn y clwb iaith ar ôl ysgol ym Mlwyddyn 7 ac yna, dewisais astudio’r iaith fel un o’m pynciau TGAU ac , yn wir, dyma’r pwnc cyntaf y dewisais ei astudio ym mlwyddyn 10. Rwyf wedi bod â diddordeb yn yr iaith ar diwylliant erioed. Pan glywais gyntaf am y gystadleuaeth, neidiais ar y cyfle i gystadlu fel unigolyn er mwyn dangos y sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu. Ychydig fisoedd ar ôl cystadlu yn y rowndiau a gynhaliwyd yn Llundain, cefais gadarnhad fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol yn fy nghategori i. Cynhaliwyd y rownd derfynol yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ac roeddwn yn cystadlu yn erbyn rhai siaradwyr cryf iawn o bob rhan o’r DU. Er nad enillais y rownd derfynol, dysgais gryn dipyn o’r profiad a gwnaeth fy Mandarin wella’n gyflym wrth i mi baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.” Dyweodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Argoed,  Dawn Spence: “Rydym yn hynod falch o bawb a fu’n cystadlu, ac yn enwedig Charlie, a oedd nid yn unig yn cynrychioli’r ysgol ond Sir y Fflint a Chymru hefyd. Ysgol Uwchradd Argoed oedd un o’r ystafelloedd dosbarth Confucius gyntaf yng Nghymru ac rydym yn dysgu Mandarin ac yn astudio diwylliant Tsieina ers blynyddoedd bellach. Rydym wedi ehangur ddarpariaeth yn ddiweddar i gynnwys cyrsiau iaith busnes. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch âr ysgol.” Mae’r Cynghorydd Derek Butler hefyd yn dysgu Mandarin, a chroesawodd Charlie i’r Cyngor Sir,  gan ychwanegu: “Mae bob amser yn braf clywed am lwyddiant disgyblion Sir y Fflint, a hoffwn longyfarch Charlie, ar ran y Cyngor Sir, ar ei llwyddiant. Rwy’n sicr y bydd dysgu Mandarin a dysgu am ddiwylliant Tsieina yn parhau i fod yn brofiad gwerthfawr sy’n ei chyfoethogi  ” Delwedd Y Cynghorydd Chris Bithell, y Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Ian Budd, Charlie Greenall, a’r Cynghorydd Derek Butler, Dawn Spence (Ysgol Uwchradd Argoed) yn Neuadd y Sir.