Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy

Published: 11/03/2020

Bydd gofyn i Aelodau Cabinet nodi argymhellion adolygiad annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru yn ogystal â sylwadau Gweinidog Cymru pan fyddant yn cwrdd ar 17 Mawrth.

Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru, oedd yn cynnwys wyth maes allweddol.

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James AC, ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wnaed. 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Cyngor a’n partneriaid strategol wedi bod yn gweithio i gyflawni’r argymhellion ar sail lleol a rhanbarthol, ac yn wir mae nifer ohonynt eisoes yn eu lle.

“Fodd bynnag, mae’n dal yn rhy gynnar i ddeall goblygiadau llawn rhai o’r argymhellion gan fod angen i Lywodraeth Cymru eu hadolygu neu benderfynu sut gellir eu datblygu a’u gweithredu.”

Crynhoir yr wyth maes a’r goblygiadau ar gyfer y Cyngor isod: 

  1. Angen o ran Tai – mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu data anghenion tai gan gynnwys cefnogi awdurdodau lleol i gynhyrchu Asesiadau cyfredol o’r Farchnad Dai Leol. O ganlyniad i hyn byddai’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod yr adnoddau ar gael o fewn timau’r Strategaeth Dai i gynhyrchu a diweddaru Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol.
  2. Safonau Ansawdd Tai – rhaid i’r timau cynllunio a thai weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni newid a sicrhau bod y safonau gofod newydd ar gyfer tai fforddiadwy yn cael eu gweithredu yn ogystal â gweithio i gyflawni carbon sero ar yr holl dai fforddiadwy.
  3. Dulliau Adeiladu Modern – ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn datblygu 12 fflat yn Garden City drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ‘gynhyrchu tai cymdeithasol oddi ar y safle, gan gynnwys opsiynau newydd ar gyfer adeiladu modwlar.
  4. Polisi Rhentu – mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi polisi rhentu pum mlynedd lle bydd yn ofynnol i landlordiaid baratoi asesiad blynyddol o fforddiadwyedd, arbedion effeithlonrwydd a gwerth am arian fel rhan o unrhyw gynnydd blynyddol mewn rhent.  Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ystyried hyn ym mhroses gynllunio busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
  5. Awdurdodau Lleol fel galluogwyr ac adeiladwyr – mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfres o fesurau er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni mwy o dai fforddiadwy, gan gynnwys: hyrwyddo cydweithio agosach rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai a gwella prosesau Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag.
  6. Tir y Sector Cyhoeddus – mae Llywodraeth Cymru yn cynnal achos busnes ar gyfer sefydlu corff tir.
  7. Cyllido Tai Fforddiadwy – mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn dylunio model grant newydd. Mae’r Cyngor yn cefnogi’r adolygiad hwn gyda phwyslais benodol ar sicrhau y gall awdurdodau lleol gael mynediad at grantiau er mwyn cefnogi eu rhaglenni datblygu. Ar hyn o bryd mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn derbyn 58% ar gynlluniau, mae hyn yn golygu nad ydy pethau yn gyfartal.
  8. Taliadau Gwaddoli a Lwfans Atgyweiriadau Mawr – mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r sefyllfa o safbwynt Taliadau Gwaddoli a Lwfans Atgyweiriadau Mawr, fel y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol arddangos rhaglen gyflymach o ddatgarboneiddio cartrefi presennol er mwyn cael ymrwymiad parhaol o Daliad Gwaddoli a Lwfans Atgyweiriadau Mawr.