Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymorth i Fusnesau 

Published: 20/03/2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pecyn cymorth gwerth £200m ar gael i fusnesau yng Nghymru i’w helpu yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Bydd siopau, busnesau hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100% a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil ar gyfer 2020/21. Yn ychwanegol at y cymorth hwn, bydd grant ychwanegol o £25,000 hefyd yn cael ei gynnig i fusnesau yn yr un sector sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Mae hefyd yn darparu grant o £10,000 i’r holl fusnesau sy’n gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod yr heriau y mae busnesau lleol yn wynebu o ganlyniad i’r coronafeirws a, lle bo’n bosibl, byddwn yn darparu’r rhyddhad ardrethi busnes a’r grantiau ychwanegol i fusnesau yn awtomatig.  

Dylai unrhyw fusnes yn Sir y Fflint sydd yn profi problemau gysylltu â’r gwasanaethau canlynol: 

Ymholiadau Ardrethi Busnes  01352 704848

Cymorth I Fusnesau Cymru   03000 6 03000 neu ewch i businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws