Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cau parciau ac ardaloedd chwarae 

Published: 23/03/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â llywodraethau lleol a chenedlaethol yn dod yn fwyfwy pryderus am y risgiau i iechyd y cyhoedd os nad yw’r cyhoedd yn dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol mewn mannau agored.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob cyngor ar draws Cymru adolygu’r gwaith o reoli mannau agored lleol er mwyn helpu i ymladd y pandemig.

Felly mae Sir y Fflint, ynghyd â nifer o Gynghorau eraill ar draws Cymru, wedi penderfynu cau ardaloedd chwarae plant caeedig a pharciau gwledig y mae’n gyfrifol amdanynt o ddydd Llun 23 Mawrth nes rhoddir rhybudd pellach, er lles iechyd y cyhoedd. 

Mae’r Cyngor wedi gofyn i sefydliadau eraill sydd yn rheoli mannau agored tebyg – megis Cynghorau Tref a Chymuned – i wneud yr un fath. 

Bydd pob ardal chwarae a pharc gwledig yn Sir y Fflint yn cau ac yn cael eu diogelu o ddydd Llun 23 Mawrth – a bydd arwyddion yn cael eu rhoi i fyny – nes y rhoddir rhybudd pellach. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn apelio am eich cydweithrediad. Peidiwch â cheisio defnyddio’r mannau yma. 

Rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth genedlaethol wrth gymryd camau anffodus yma, ac ni fyddem yn gweithredu fel hyn oni bai am y perygl difrifol i fywydau.