Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Treftadaeth Mynydd Helygain yn dechrau ddydd Sadwrn

Published: 28/04/2015

Mae Wythnos Treftadaeth Helygain yn dechrau ddydd Sadwrn. Mynydd Helygain fydd canolbwynt yr wyl o weithgareddau a gaiff eu cynnal rhwng dydd Sadwrn 25 Ebrill tan ddydd Gwener 1 Mai. Maer wythnos yn dechrau ddydd Sadwrn am 10.30am yn nhafarn y Blue Bell Inn, gyda thaith gerdded ar hyd y comin dan arweiniad Fiona Gale, archeolegydd, a Troedio Clwyd, i chwilio am olion y gwaith plwm. Nos Sadwrn, am 7pm, cynhelir noson ffilmiau yn Neuadd Bentref Helygain pan gaiff ffilmiau am dreftadaeth Helygain eu dangos. Ddydd Sul, 26 Ebrill, bydd taith gerdded i deuluoedd o amgylch Mynydd Helygain yn cychwyn am 2pm o heb ysgol Rhes-y-cae. Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal bob dydd drwy gydol yr wythnos, a daw’r cyfan i ben ddydd Gwener,1 Mai gyda sesiwn archaeoleg rhwng 2pm a 4pm yn hen ysgol yn Rhes-y-cae. Rhowch gynnig ar gofnodi nodweddion archeolegol gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd a Phowys. Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw, drwy ffonio Parc Gwepra ar 01352 703,900 Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Yr Amgylchedd: “Daeth Wythnos Treftadaeth Helygain i fwcwl diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Maen gyfle gwych i fwynhaur ardal hardd hon a dathlu treftadaeth gyfoethog Mynydd Helygain. Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint sydd wedi trefnu’r wyl a hynny mewn partneriaeth ag Ystâd Grosvenor ac Adnoddau Naturiol Cymru.” Ceir manylion llawn am yr holl ddigwyddiadau ar wefany Cyngor drwy chwilio am Wythnos Treftadaeth Helygain neu drwy gysylltu â Lorna Jenner ar 01352 741676 / lorna.jenner@btinternet.com; neu Rachael Watson ar 01352 703908 / rachel watson@wildlifetrustswales.org. Nodiadau i’r golygyddion Mae taflen ddigwyddiadau ynghlwm.