Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Plant yn Sir y Fflint

Published: 26/03/2020

Mae Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n galed i reoli’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r cyngor a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chyrff iechyd cyhoeddus eraill yn cael eu diweddaru’n gyson ac maent yn cael eu pasio ymlaen i’r sector yn gyflym drwy ddiweddariadau rheolaidd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.   Maent yn cyfathrebu’n bennaf drwy:

E-bost: fisf@flintshire.gov.uk

Twitter @FISFlintshire a

Facebook facebook.com/Family-Information-Flintshire-Gwybodaeth-i-Deuluoedd-Sir-y-Fflint

Gall darparwyr gofal plant hefyd gysylltu â’u person cyswllt arferol drwy Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes.  Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n rheolaidd ac yn gyson. Yr un yw’r neges i wasanaethau Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes.

Nid oes gofyn i leoliadau gofal plant gau.  Bydd Sir y Fflint yn dal i wneud taliadau am ofal plant a ddarperir dan Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes.

Dylai ysgolion sydd â darpariaeth gofal plant cofrestredig ar y safle aros ar agor, er bod addysg ysgol statudol wedi’i atal.  Byddwn yn parhau i gydweithio â darparwyr gofal plant a rhieni, a bydd gwybodaeth bellach ar gael dros yr wythnosau sydd i ddod.

Mae cyngor y llywodraeth yn nodi’n glir iawn y dylai plant aros gartref lle bynnag y bo hynny’n bosib. Fodd bynnag, dylai teuluoedd gweithwyr allweddol dynodedig (a ddisgrifir yn y rhestr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru) allu cael gafael ar ofal plant brys os bydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith, pan nad oes yna ddewis arall diogel.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi canllawiau clir ar sut y dylai teuluoedd gael eu blaenoriaethu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru:

  • Categori 1 - rhiant sengl sy’n gweithio mewn swydd sydd ar y rhestr y mae Llywodraeth Cymru’n ei diffinio’n hanfodol i’r ymateb i Covid-19.
  • Categori 2 – lle mae’r ddau riant yn gweithio mewn swyddi sydd ar y rhestr.
  • Categori 3 – rhiant o uned deuluol nad yw’n gymwys dan gategorïau 1 a 2 uchod, ac sy’n gweithio mewn swydd oddi ar y rhestr; a lle mae yna reswm esboniadwy a dilys dros eu hangen i ddefnyddio’r ddarpariaeth.

Gall darparwyr gofal plant geisio eglurhad pellach gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu eu person cyswllt arferol yn yr Awdurdod Lleol.