Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor am argyfwng COVID-19

Published: 26/03/2020

 

Yn ystod y sefyllfa argyfyngus hon – wrth i’r Cyngor weithio gyda’i sefydliadau partner allweddol i gefnogi pob cymuned ar draws y Sir – hoffai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a Colin Everett, Prif Weithredwr, ddiolch i breswylwyr Sir y Fflint am eu cefnogaeth barhaus a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Treth y Cyngor

Rydym yn ymwybodol fod rhywfaint o ddryswch o ran Treth y Cyngor a p’un a oes rhaid i bobl ei dalu ar hyn o bryd.   Mae rhai pobl yn cael anawsterau ac yn poeni na allant wneud eu taliadau.  Mae’r Cyngor yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor os byddwch chi yn y sefyllfa hon.  Os ydych chi’n gymwys ac angen cyngor a chymorth, gallwch gysylltu â’n tîm Treth y Cyngor ar 01352 704848 neu dros e-bost ar local.taxation@flintshire.gov.uk neu gallwch fynd i’n gwefan siryfflint.gov.uk/TrethyCyngor.  

Sylwch fod nifer y galwadau yn uchel iawn ac rydym yn cael nifer fawr o negeseuon e-bost.  Rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn rhwystredig i chi.  Mae’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n ceisio cysylltu â ni yn deall y sefyllfa ac maen nhw’n amyneddgar a pharchus gyda’n gweithwyr.  Hoffem ofyn i bawb sy’n ein ffonio gofio hyn.

Gall llawer o bobl fforddio talu eu Treth y Cyngor o hyd.  Mae Treth y Cyngor yn dreth leol sy’n ffurfio traean o gyfanswm incwm y Cyngor.  Yn y sefyllfa argyfyngus hon, mae’r Treth y Cyngor rydych chi’n ei thalu yn helpu i ariannu’r gwasanaethau hanfodol y mae’n rhaid i ni barhau i’w darparu i gefnogi pobl a chymunedau.   Mae’r Cyngor wedi blaenoriaethu gwasanaethau hanfodol lle maen nhw’n diogelu bywydau, diogelu pobl ddiamddiffyn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, cadw’r isadeiledd cludiant ar agor, a helpu gweithwyr allweddol i wneud eu gwaith.  Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys: 

  • rhedeg cartrefi gofal preswyl
  • cefnogi oedolion diamddiffyn yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal
  • darparu gofal cartref i bobl yn eu cartrefi eu hunain
  • helpu pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty i ‘ryddhau’ gwelyau ysbyty
  • cefnogi plant diamddiffyn yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal
  • rhedeg Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol
  • helpu pobl ddigartref a darparu llety ar eu cyfer
  • talu budd-daliadau tai
  • rhoi cyngor lles i’r rhai sydd angen cefnogaeth gydag incwm eu teulu
  • dosbarthu bwyd i bobl mewn angen a phobl mewn tlodi
  • agor ysgolion fel canolfannau gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol
  • cyflawni dyletswyddau gwarchod y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd gan gynnwys diogelwch bwyd a lles anifeiliaid
  • casglu gwastraff o aelwydydd
  • cadw’r rhwydwaith priffyrdd ar agor ac yn rhedeg
  • cadw mynwentydd ar agor
  • cofrestru genedigaethau a marwolaethau
  • darparu cefnogaeth i fusnesau lleol bach a chanolig a rhoi cefnogaeth grant brys iddynt ar ran Llywodraethau

Byddai angen i Lywodraethau wneud unrhyw benderfyniadau am newidiadau dros dro i gasglu Treth y Cyngor.  Dim ond casglu’r Dreth mae’r Cyngor. 

Ffioedd a Thaliadau ac Ad-daliadau

Rydym yn cael nifer fawr o ymholiadau lle mae pobl wedi tanysgrifio am wasanaethau maen nhw’n talu amdanynt – ac mae’r gwasanaethau hyn wedi’u hatal dros dro.  Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau hyn yn ymwneud â’r gwasanaeth gwastraff gardd.  Rydym yn gobeithio gallu ailgyflwyno’r gwasanaeth hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac rydym yn edrych ar ostyngiad posibl ar gyfer tâl casglu gwastraff gardd 2021/22 a fydd yn gymesur â hyd y cyfnod atal dros dro eleni.  

Pan fo priodasau a digwyddiadau sifil wedi’u canslo, byddant – lle bo’n bosibl – yn cael eu haildrefnu ar gyfer dyddiad arall. Pan nad yw hyn yn bosibl, cynigir ad-daliad.  Bydd hyn hefyd yn berthnasol i ganslo trefniadau llogi cyfleusterau ac ystafelloedd cyfarfod a gweithgareddau er enghraifft.    

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am ffioedd a thaliadau ac ad-daliadau pan fyddant wedi’u cymeradwyo.

Gweithio Gyda'n Gilydd

Mae hwn yn amser pryderus i ni i gyd, ac mae ein gweithlu cyfan yn rhannu’r holl ofidiau a phryderon sydd gennych. 

Mae angen i ni barchu a gwerthfawrogi gweithlu’r sector cyhoeddus ar yr adeg ddifrifol hon.

Mae gweithlu’r GIG yn cael eu canmol a’u hanrhydeddu am eu hymroddiad a’u gwaith, a hynny’n haeddiannol iawn. Nid nhw yw’r unig rai sy’n cadw’r wlad i redeg a chadw pobl yn ddiogel ac iach. Mae gan y Cyngor ei ‘fyddin’ ei hun o weithwyr allweddol sy’n cyfrannu at yr ymdrech trwy ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol a chymunedau. 

Mae mwyafrif helaeth preswylwyr lleol a chwsmeriaid yn bod yn amyneddgar a chydweithredu â ni wrth i ni gau gwasanaethau penodol nad ydynt yn hanfodol dros dro ac adleoli ein gweithlu i gefnogi’r gwasanaethau hanfodol.  Yn anffodus mae lleiafrif fach o bobl sydd wedi ffonio ein Canolfannau Cyswllt wedi bod yn ymosodol ac yn ddifrïol weithiau. Mae enghreifftiau yn cynnwys pobl sy’n talu Treth y Cyngor yn disgwyl ‘gwyliau’ oddi wrth ei thalu oherwydd bod gwasanaeth lleol fel llyfrgell wedi’i gau dros dro.   Nid yw ymddygiad o’r math hwn yn dderbyniol. 

Rydym yn apelio am ymddygiad da a gofalgar. Mae gennym ninnau weithlu llai nag arfer gyda gweithwyr yn absennol oherwydd eu bod yn sâl, yn hunanynysu, neu adref i ofalu am eu plant oherwydd bod eu partner yn weithiwr allweddol.  

Ar ran y Cyngor, byddem yn annog pawb i gadw’n ddiogel a dilyn y canllawiau sydd wedi’u rhoi ar waith.