Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella ein hawliau tramwy

Published: 27/04/2015

Mae llwybr troed syn cynnig cyswllt hanfodol rhwng Treffynnon a Holway wedi cael ei wellan sylweddol yn dilyn gwaith helaeth gan Gyngor Sir y Fflint, a gynhaliwyd gyda chefnogaeth cymorth grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Roedd y gwaith yn cynnwys torri llystyfiant, disodli hen ddraen a darparu arwyneb carreg. Maer llwybr troed, sy’n rhan o lwybr pellter hir o’r enw Llwybr y Pererinion rhwng Ffynnon St. Gwenffrewi, Treffynnon ac Ynys Enlli. Mae hefyd yn cysylltu â Maes Glas a Llwybr Arfordir Cymru, a agorwyd yn ffurfiol yn 2012. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae’r Tîm Hawliau Tramwy yn darparu gwasanaeth gwerthfawr wrth gynnal y rhwydwaith llwybrau troed i drigolion ac ymwelwyr i fwynhau cefn gwlad hardd Sir y Fflint. “Rwyn falch iawn bod y gwaith rhwng Treffynnon a Holway wedi cael ei gynnal i safon mor uchel a dylai roi hwb i dwristiaeth yn ardal Treffynnon a’r tu hwnt. Roedd y gwaith hwn yn un o nifer o gynlluniau a gynhaliwyd i wella llwybrau troed a llwybrau ceffylau ar hyd a lled Sir y Fflint dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf gyda chymorth gan CNC fel rhan oi raglen ariannu i weithredu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir y Fflint.