Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grantiau i fusnesau

Published: 27/03/2020

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio i gefnogi busnesau yn ystod y sefyllfa argyfyngus hon.

Fel rhan o’r gefnogaeth hon mae dau gynllun grantiau newydd fel nodir isod.

Bydd y grantiau yn cael eu gweinyddu gan y Cyngor ac rydym yn paratoi i wneud taliadau yn fuan. 

 

Grant 1 – bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.

 

Grant 2 - bydd busnesau sy’n bresennol yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach gyda gwerth ardrethol hyd at £12,000 yn cael grant o £10,000.

 

Os yw eich busnes yn gymwys ar gyfer cael grant llenwch y ffurflen gais ar-lein yn www.flintshire.gov.uk/businessrates