Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grantiau i fusnesau

Published: 03/04/2020

Mae'r Cyngor wrthi’n prosesu grantiau ardrethi busnes i’r rhai sy’n gymwys am gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y swp cyntaf o grantiau argyfwng yn cael eu talu i 800 o fusnesau Sir y Fflint (gwerth £10m) o dydd Llun 6 Ebrill.  Rydym wedi gwei  thredu'n brydlon i gefnogi ein cymuned fusnes.

Mae dau gynllun grantiau fel nodir isod.

Grant 1 – bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.

Grant 2 - bydd busnesau sy’n bresennol yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach gyda gwerth ardrethol hyd at £12,000 yn cael grant o £10,000.

Os nad yw eich busnes wedi gwneud cais eto, gallwch lenwi’r ffurflen gais ar-lein.

Cymorth a Chyngor I fusnesau ar gael ar ein gwefan yma.