Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rheoliadau y Coronafeirws sy’n Effeithio ar Fusnesau - Sut i Adrodd Pryderon neu Gael Cyngo

Published: 06/04/2020

Ers i’r cyfyngiadau masnachu a gofynion cadw pellter cymdeithasol i fusnesau gael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth, mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o fewn cymunedau lleol nad yw lleiafrif bychan o fusnesau yn cydymffurfio. 

Bydd Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned Cyngor, yn ymateb i gwynion o ddiffyg cydymffurfio yn unol â chynghorau ar draws y Deyrnas Unedig, 

Bydd y Cyngor yn defnyddio ei bwerau yn briodol ac yn gyfatebol i sicrhau y cydymffurfir yn llwyr â’r Rheoliadau a bydd swyddogion y Cyngor yn parhau i gynnig cyngor ac arweiniad pan fo angen. 

Rydym yn gobeithio gweithio’n adeiladol gyda’r busnesau sydd â chaniatâd i fod ar agor, trwy ymgysylltu ac addysgu. Dewis olaf yn unig fydd defnyddio pwerau gorfodi.  

Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n bwysig fod pawb yn cydweithio ac yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau yn ystod yr argyfwng yma. 

Mae rhif ffôn a chyfeiriad e-bost arbennig wedi cael eu creu er mwyn i breswylwyr a busnesau adrodd unrhyw bryderon sydd ganddynt: 

Caiff galwadau ac e-byst eu monitro yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30 a 17:00)