Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Published: 06/04/2020

Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi’i dewis fel y safle gorau sydd ar gael ar gyfer Ysbyty Brys i wasanaethu ardal Dwyrain Gogledd Cymru oherwydd ei lleoliad a pha mor hygyrch ydyw ar ffyrdd; ei maint a’i gosodiad mewnol; cyfleustodau a chyfleusterau sydd ar gael fel cyfleusterau toiled ac ymolchi hygyrch. Mae gan y Ganolfan Hamdden fantais o allu darparu capasiti gwelyau estynedig y tu hwnt i’r targed 250 dechreuol os oes angen.

Dewiswyd y Ganolfan Hamdden ddydd Iau 2 Ebrill gan dîm o bartneriaid gan gynnwys tîm proffesiynol amlddisgyblaethol o’r Bwrdd Iechyd, y Cyngor fel y landlord, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân a’r Fyddin, ac mewn ymgynghoriad gydag Aura Cymru fel y tenant.

Mae tasg bwysig gennym nawr o drawsnewid Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn ysbyty dros dro erbyn diwedd mis Ebrill yn barod ar gyfer y brig disgwyliedig o ran galw am dderbyniadau i'r ysbyty.

Y ddau brif ward fydd y neuadd chwaraeon a neuadd y parc sglefrio. Mae’r ganolfan sglefrio, sydd mewn cyflwr sych ar hyn o bryd a heb ei orchuddio â rhew, yn drydydd man a gedwir fel lle wrth gefn. Gwnaed y penderfyniad i ddymchwel offer y parc sglefrio fel y dewis mwyaf effeithlon o ran amser er mwyn galluogi’r prif gontractwr, a fydd yn gosod yr ysbyty, i gael mynediad yn syth i’r Ganolfan Hamdden o ddydd Llun 6 Ebrill.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law o ran sut bydd yr ysbyty dros dro yn gweithredu, a phryd fydd yn agor. Y Bwrdd Iechyd fydd yn rheoli’r ysbyty.

Bydd y Ganolfan Hamdden yn dychwelyd i’w defnydd llawn pan fydd y sefyllfa frys drosodd. Bydd Aura a’r Cyngor yn asesu’r dewisiadau ar gyfer neuadd y parc sglefrio a beth gellir ei gynnig yn y lle hwn pan fydd y sefyllfa frys ar ben. Mae’r Cyngor yn cysylltu â Llywodraeth Cymru am gefnogaeth ariannol i sicrhau y caiff Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy offer newydd ar gyfer cynnig hamdden ar gyfer y dyfodol.

DLC Rink.jpg              

mae'r gwaith yn dechrau yn DLC

DLC sports hall.jpg

Neuadd chwaraeon