Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a Sorted Sir y Fflint

Published: 14/04/2020

Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Swyddfa Sorted Sir y Fflint ar gau ar hyn o bryd. 

Fodd bynnag, mae swyddogion y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted yn parhau i weithio o leoliadau eraill. Os oes gennych unrhyw apwyntiadau neu gyfarfodydd wedi’u trefnu, bydd aelod o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid neu Sorted Sir y Fflint yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod sut caiff hyn ei wneud. Dylech gymryd yn ganiataol y bydd yn cael ei gynnal fel a drefnwyd nes i chi glywed gan aelod o’r Tîm.

Er bod y swyddfa’n dal i fod ar gau, byddwn yn parhau ein gwaith a bydd Swyddog ar Ddyletswydd yn monitro ein peiriant ateb yn rheolaidd trwy ein horiau gweithio arferol rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener (ar wahân i Wyliau’r Banc). Os oes angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch 01352 701125 a gadewch eich enw a manylion cyswllt a neges fer a bydd rhywun yn cysylltu â chi. 

Fodd bynnag, os yw eich mater yn un brys neu os yw’n ymwneud â phryder o ran diogelu neu amddiffyn plant, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Sir y Fflint ar 01352 701000 rhwng oriau gwaith arferol. Gallwch gysylltu â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 0845 053 3116 hefyd y tu allan i oriau swyddfa.

Os yw eich pryder yn ymwneud â mater heddlu, cysylltwch â 101 ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys neu os yw’r mater yn un brys, cysylltwch â 999. 

Gall gweithwyr proffesiynol ddal i gyflwyno atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint trwy’r cyfeiriad e-bost arferol.