Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aros adref

Published: 17/04/2020

Yn dilyn ymateb gwych gan breswylwyr dros gyfnod y Pasg i ddilyn cyngor y Llywodraeth ac aros adref, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pawb unwaith eto i osgoi teithio os nad yw’n hanfodol, ac ‘aros adref’. 

Trwy ddilyn y cyngor hwn, gallwn helpu i ‘ddiogelu’r GIG ac achub bywydau’. 

Mae cyngor y Llywodraeth yn dweud y cewch adael eich cartref unwaith y dydd yn unig i wneud ymarfer corff. Gallai hynny olygu mynd ar eich beic, mynd â’r ci am dro neu fynd am dro neu i redeg. Dylid defnyddio mannau agored a llwybrau cyhoeddus mewn modd cyfrifol a dylid cadw pellter cymdeithasol bob amser. Cofiwch ‘aros yn lleol’. 

Mae Hawliau Tramwy yn caniatáu mynediad i’r cyhoedd i gefn gwlad lleol. Dylid dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol yn agos a dylai pawb fod yn ystyriol o dirfeddianwyr y mae llwybrau yn croesi eu tir, a:

• Mynd ar eich pen eich hun neu gydag aelodau eich aelwyd;

• Bod yn ymwybodol bod pobl yn cyffwrdd gatiau, camfeydd a strwythurau awyr agored eraill yn aml felly dylid dilyn canllawiau hylendid;

• Peidio rhoi cynnig ar weithgareddau newydd neu sy’n peri risg – ‘aros yn ddiogel’; 

• Dilyn y Cod Cefn Gwlad – ystyried ffermwyr ac eraill sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod silffoedd ein siopau’n llawn.