Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dwyll ffôn Coronafeirws

Published: 30/04/2020

Hoffai Safonau Masnach Sir y Fflint rybuddio busnesau am dwyll ffôn Coronafeirws diweddar.  Mae’r sawl sydd ar y ffôn yn dweud eu bod o Adran Iechyd yr Amgylchedd/Trwyddedu yn y Cyngor ac yn gofyn a oedd y busnes yn cynnig prydau tecawê i ddefnyddwyr.  

Mae’r sawl sydd ar y ffôn yn mynd ymlaen gan ddweud pe bai gwasanaeth tecawê yn cael ei gynnig yna y byddai’n rhaid i gwsmeriaid dalu gyda cherdyn yn unig ac na chaniateir iddynt gymryd taliadau arian parod mwyach.  Gofynnir i’r busnes am eu manylion banc er mwyn i’r cyngor anfon peiriant cerdyn atyn nhw.

Os byddwch chi’n cael galwad ffôn debyg, rhowch y ffôn i lawr, TWYLL ydyw!!

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddelio â thwyll drwy ffonio Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.