Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Jambori - Mehefin 2015

Published: 07/05/2015

Mae Gwasanaeth Addysg Gymraeg Sir y Fflint yn cynnal Jambori cerddorol pedwar diwrnod i flynyddoedd 1 a 2. Yn fras, bydd 2,500 o blant Sir y Fflint yn mynychu’r pedwar diwrnod o berfformiadau. Maer cyflwynydd ar diddanwr plant poblogaidd, Martyn Geraint wedi ei gomisiynu i gynnal wyth perfformiad. Dyddiadau’r Jamboris:- Dydd Llun, 15 Mehefin 10.30 tan 11.30 a 1.30 tan 2.30 Dydd Mawrth, 16 Mehefin 10.30 tan 11.30 a 1.30 tan 2.30 Dydd Mercher, 17 Mehefin 10.30 tan 11.30 - Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn unig Dydd Mercher, 17 Mehefin 1.30 tan 2.30 Dydd Iau, 18 Mehefin 10.30 tan 11.30 a 1.30 tan 2.30 Bydd y Jambori yn cael ei gynnal yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, a hoffem ddiolch i aelodau Cyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus. Mae’r paratoadau ar y gweill ac mae blynyddoedd 1 a 2 yn brysur iawn yn dysgu caneuon yn barod i gymryd rhan efo Martyn Geraint. Bydd pob ysgol yn derbyn CD or caneuon. Mae Martyn Geraint dros y blynyddoedd wedi ennill enw da fel un o ddiddanwyr plant mwyaf blaenllaw Cymru ac mae ganddo ddawn naturiol i ysbrydoli plant. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Yn ogystal â bod yn hwyl ac yn gyfle i gymdeithasu, bydd y Jambori yn ffordd o wella sgiliau iaith disgyblion gan roi dimensiwn ychwanegol i wersi Cymraeg drwy gynnig profiad dysgu cadarnhaol drwy gerddoriaeth.”