Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Published: 11/05/2020

Ddydd Gwener, 8 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i ail-agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar draws Cymru cyn bo hir, a chaniatâd i deithio yno.

Mae cynghorau ar draws Cymru yn cydweithio, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ail-agor y Canolfannau hyn yn ddiogel.  Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd a’n gweithlu, a bydd rhaid cael y mesurau diogelwch canlynol ar waith:

  • Cydymffurfio'n llawn gyda rheoliadau iechyd a diogelwch, yn ogystal â chanllawiau'r llywodraeth
  • Lefelau staffio digonol ymhob cyfleuster 
  • Argaeledd glanweithdra priodol
  • Rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith
  • Systemau rheoli traffig cadarn ac effeithiol

Yma yn Sir y Fflint, hoffwn fod mewn sefyllfa i ail-agor ein pum cyfleuster ailgylchu erbyn diwedd mis Mai, cyn belled ein bod wedi cael canllawiau clir gan Lywodraeth Cymru.

I leihau’r pwysau ar ein Canolfannau Ailgylchu pan maent yn ail-agor am y tro cyntaf, mae'r Cyngor wedi ailddechrau casgliadau gwastraff gardd am gyfnod o bythefnos yn unig - Dydd Llun 11 Mai hyd at Ddydd Sadwrn 23 Mai, i breswylwyr sydd wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth 2019 a/neu 2020.  Mae rhagor o wybodaeth am y casgliadau un tro hyn ar gael ar wefan y Cyngor.

Rydym yn croesawu cyhoeddiad dydd Gwener, ac rydym yn gwybod y bydd yn gyhoeddiad y mae llawer o’n preswylwyr yn ei groesawu hefyd.

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ar ein cynlluniau i ail-agor cyfleusterau lleol yn y dyddiau nesaf.