Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn cyrraedd rownd derfynol gwobrau Cyngor Gofal Cymru

Published: 11/05/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau Cyngor Gofal Cymru. Mae gwasanaeth y blynyddoedd cynnar a chefnogi teuluoedd y Cyngor wedi’i ddewis i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau 2015 yn y categori ‘Canlyniadau gwell drwy gydweithio’. Er mwyn sicrhau bod rhianta rhagweithiol a chadarnhaol yn cael ei hybu, a bod canlyniadau negyddol ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu hatal, sefydlwyd partneriaeth rhwng nifer o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Cymunedau yn Gyntaf, Dechraun Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Bwrdd Iechyd Lleol a sefydliadaur trydydd sector. Cyfunwyd cryfderau pob sefydliad i weithion fwy agos ac effeithiol gyda rhieni. Maer bartneriaeth yn gweithio i: Gynyddu ymwybyddiaeth ac arfer ynglyn â diogelu, lles a pharchu eraill, darparu amgylchedd diogel a chynhwysol ar gyfer rhieni a phlant. Cynyddu ymwybyddiaeth a mynediad i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint fel un pwynt cyswllt ar gyfer rhieni, gofalwyr a gwasanaethau. Cefnogi rhieni, teuluoedd ac asiantaethau eraill i asesu a darparu ymyriadau i ddiwallu anghenion a nodwyd, a chynyddu gallu a hyder rhieni. Cynyddu mynediad i hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr. Parhau ag ymgysylltu a chydweithredu rhwng staff yr ysgol a theuluoedd. Cynnwys rhieni wrth godi lefelau cyrhaeddiad plant, drwy leihau ynysiad rhieni a gwella lles meddyliol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae hwn yn newyddion cyffrous iawn! Maen gamp aruthrol i gyrraedd rowndiau terfynol gwobrau Cyngor Gofal Cymru ac mae bob amser yn braf pan fydd ein gwasanaethau yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol. Da iawn ir holl bobl hynny syn cymryd rhan yn y bartneriaeth aml-asiantaeth, syn gweithio mor galed i gefnogi teuluoedd Sir y Fflint.” Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, ddydd Iau, 18 Mehefin. Mae manylion llawn am y gwobrau i’w gweld yn www.cgcymru.org.uk