Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Goleuo Neuadd y Sir

Published: 15/05/2020

FCC support for the NHS (8 of 8).jpgGoleuwyd Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug neithiwr i gefnogi a chydnabod y GIG.

Bydd logo’r GIG gyda lliwiau’r enfys a logo “Sir y Fflint Fel Un” Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddangos i nodi’r perthnasau gwaith agos rhwng y Cyngor Sir a’r Gwasanaeth Iechyd, yn arbennig ar yr adeg hon.

Cysylltodd y cwmni lleol CSP AV Ltd sydd wedi eu lleoli yn Saltney gyda Thîm Busnes y Cyngor i gynnig eu gwasanaethau yn rhad ac am ddim i oleuo Neuadd y Sir am un noson.  Dewiswyd dydd Iau gan fod y diwrnod hwn wedi dod yn gyfle i ddiolch i’n cydweithwyr yn y sector iechyd.

FCC support for the NHS (7 of 8).jpgDywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Rydym yn falch iawn o’n gweithlu a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn gwneud aberthau personol aruthrol i wasanaethu a diogelu eraill.  Mae gweithwyr y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn y GIG, a phartneriaid eraill, i gadw’r ddau wasanaeth i fynd a gwneud i brosiectau arbennig ddigwydd – fel creu ysbyty argyfwng yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Ysbyty’r Enfys Glannau Dyfrdwy – mewn dim ond pedair wythnos, ac agor cartrefi preswyl newydd i helpu mwy o bobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel.”

Dywedodd Alun Williams o CSP AV Ltd:

“Roeddem eisiau dangos ein cefnogaeth i’r GIG a’r Cyngor am yr holl waith maent yn ei wneud i gefnogi trigolion a busnesau Sir y Fflint.”