Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casgliadau gwastraff swmpus

Published: 22/05/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd Refurbs Sir y Fflint yn ailgyflwyno casgliadau gwastraff swmpus ar 26 Mai. 

Gallwch drefnu casgliad eitem swmpus o'r dyddiad hwn - cysylltwch â chanolfan gyswllt Strydwedd ar 01352 701234

Wrth drefnu casgliad cofiwch y bydd yn rhaid cadw at y gweithdrefnau canlynol:

  • Peidiwch â gwneud cais am gasgliad os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi, yn hunan ynysu neu'n dangos symptomau COVID-19.
  • Rhaid gadael er eitemau y tu allan ond o fewn ffin yr eiddo (h.y. gardd ffrynt/dreif) o'r adeg pan drefnwyd eich casgliad. 
  • Ni allwn ddod i mewn i’ch cartref i’ch helpu i symud eitemau
  • Bydd y man casglu ar gyfer eiddo lle mae mynediad yn anodd e.e. fflatiau, yn cael ei drafod cyn trefnu amser ar gyfer y casgliad.
  • Gallwn wrthod casglu unrhyw eitemau a allent effeithio ar iechyd a diogelwch ein staff casglu
  • Rydym yn anelu at gasglu eich eitem o fewn chwe diwrnod gwaith ond gallai hyn gymryd hirach oherwydd y cyfyngiadau presennol.

Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan y Cyngor: siryfflint.gov.uk/CAC.  

Bydd casgliadau’n ailgychwyn ar 1 Mehefin 2020.