Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aros yn ddiogel

Published: 29/05/2020

O ddydd Llun, 1 Mehefin bydd rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ddau aelwyd yn yr un ardal leol gwrdd yn yr awyr agored.

Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref. 

Mae hefyd yn hanfodol bod pobl yn Sir y Fflint a thu hwnt yn parhau i ddilyn holl reoliadau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n gwahardd pobl rhag gyrru i leoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod ganddynt broblemau wrth symud. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn bod yn ystyriol ac yn dilyn y rheolau.

Mae’r maes parcio ym Mharc Wepre yng Nghei Connah yn parhau dan glo ac mae’r ardal chwarae, canolfan ymwelwyr a’r toiledau yn dal wedi cau.   Mae yna le parcio cyfreithiol cyfyngedig mewn cyrchfannau poblogaidd fel Talacre a bydd ein Swyddogion Gorfodi yn patrolio’r ardal hon ac ardaloedd eraill yn rheolaidd. 

Mae’r meysydd parcio canlynol yn parhau ynghau: 

• Dock Road, Cei Connah 

• Castell y Fflint

• Gorsaf y Bad Achub, y Fflint

• Pont Droed Saltney Ferry

• Dock Road, Maes Glas  

• Golygfan Gwaenysgor 

• Gamfa Wyn, Talacre

• Station Road, Talacre

Mae Maes Parcio’r Goleudy, Talacre hefyd wedi’i gau gan y perchennog. 

Mae ardaloedd ble rydym wedi cael adroddiadau blaenorol bod pobl yn ymgynnull yn parhau i gael eu monitro gan Heddlu Gogledd Cymru. 

Dylech gydweithredu a dilyn y rheolau a’r rheoliadau. Aros yn ddiogel.