Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prentisiaid yn dathlu llwyddiant ac yn annog pobl ifanc i ymuno mewn cynllun hyfforddi

Published: 13/05/2015

Mae nifer o staff Cyngor Sir y Fflint a gwblhaodd eu rhaglen hyfforddi wedi cael eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo’n ddiweddar yng Ngholeg Cambria. Roedd pedwar yn y rownd derfynol, sef Hannah Bibby, Jamielee Thomas, Ciaran Allman a Jamie Featherstone. Cyhoeddwyd mai Hannah Bibby oedd yr enillydd yng nghategori Prentis Lefel Uwch y Flwyddyn, a Jamielee Thomas enillodd gwobr Prentis y Flwyddyn. Bob blwyddyn, caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio mewn adrannau drwy’r Cyngor, ac mae cyfleoedd ym maes gweinyddu, TGCh, cyfrifyddu, diogelu’r amgylchedd, peirianneg, arlwyo, garddwriaeth, harddwch, rheoli cefn gwlad, a disgyblaethau eraill. Fel arfer, bydd y prentisiaid yn treulio un diwrnod yr wythnos yng Ngholeg Cambria  am ddwy neu dair blynedd a chânt eu hyfforddi a’u hasesu yn y gweithle. Ar hyn o bryd, mae Sir y Fflint yn cynnig lleoliad i 30 o brentisiaid mewn amrywiaeth o swyddi yn y sefydliad. Mae’r cynllun prentisiaid yn cynnig gwahanol fathau o hyfforddiant gan gynnwys prentisiaeth i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol neu sy’n dychwelyd i’r byd gwaith ac sydd â 5 TGAU A*-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg; prentisiaid lefel uwch sy’n ystyried mynd i’r brifysgol neu i’r gweithle a graddedigion sy’n chwilio am waith ar ôl gadael y brifysgol i ennill cymwysterau proffesiynol. Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint: “Hoffwn longyfarch ein prentisiad am gwblhau eu cyrsiau. Mae cyfran uchel iawn yn llwyddo, ac mae 96% o’n prentisiaid yn cael swydd naill ai gyda’r Cyngor neu gyda sefydliad arall, ac mae pedwar y cant yn symud ymlaen i’r brifysgol neu’n cael hyfforddiant proffesiynol. Mae’n gyfle gwych i ennill cymhwyster cydnabyddedig a chael hyfforddiant a phrofiad ymarferol yn y gwaith yr un pryd.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Yma yng Nghyngor Sir y Fflint, rydym yn falch iawn o’n Rhaglen i Brentisiaid, sy’n dangos ein hymrwymiad i hyfforddi a helpu pobl o bob oed i fanteisio ar gyfleoedd gwaith. Mae Cynghorau cyfagos a darparwyr Addysg Bellach yn cydnabod bod ein partneriaeth â Choleg Cumbria yn enghraifft o arfer gorau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb  yn y rhaglen i edrych ar ein gwefan www.trainees-flintshire.co.uk i ddysgu rhagor am y lleoliadau sydd ar gael. “ Ychwanegodd Pennaeth Coleg Cambria, David Jones, a gyflwynodd y tystysgrifau: Mae’n amlwg bod Cyngor Sir y Fflint yn arwain y sector yn ei ymrwymiad i brentisiaid a phobl ifanc - mae’r dull hwn o weithredu’n cyfateb i’r arfer gorau bosibl yn y sector preifat. Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â nhw. “  Delweddau 1885: O’r chwith i’r dde: Colin Everett, Prif Weithredwr; Jamie Featherstone, Jamielee Thomas, Hannah Bibby, Ciaran Allman; Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton. 1908: Y Prif Weithredwr Colin Everett; Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton a Phennaeth Coleg Cambria, David Jones gyda’r prentisiaid.