Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Gladys a ddathlodd ei phen-blwydd yn 100 oed!

Published: 12/06/2020

Gladys Goldsmith.jpg

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig. 

Anfonodd y Cynghorydd Marion Bateman flodau i Mrs Gladys Goldsmith a ddathlodd ei phen-blwydd yn 100 oed yn ei chartref yn ddiweddar.  

Nid oedd y Cynghorydd Bateman wedi gallu ymweld â Mrs Goldsmith, ond fe gafodd ei synnu pan welodd ei chymdogion yn sefyll tu allan yn canu Pen-blwydd Hapus iddi (wrth gadw pellter cymdeithasol).