Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Apêl bocsys esgidiau yn dod a llawenydd i bobl ifanc diamddiffyn yn Sir y Fflint

Published: 17/06/2020

Rainbow-Shoebox-Appeal_cfb7132510e3129494434bb90d87fbba.jpg

ae Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint, ynghyd ag aelodau o’r gymuned leol wedi cydweithio er mwyn rhoi bocsys o lawenydd i blant diamddiffyn yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID 19. 

Galwodd y theatr ar y cyhoedd am gyfraniadau o focsys esgidiau yn llawn pethau hwyliog a lliwgar i wneud y byd yn lle brafiach i berson ifanc yn Sir y Fflint.

 “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan yr ymateb anhygoel gan ein cymuned” dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol y theatr, “daeth nifer o bobl â mwy nac un bocs, trefnodd Glwb Pêl-Droed Bwcle gasgliadau, ac mae crefft, creadigrwydd a safon yr hyn rydym wedi ei dderbyn yn galonogol iawn.”

Yn ystod yr apêl, cyfrannwyd dros 300 o focsys esgidiau dros 2 ddiwrnod, sydd erbyn hyn wedi cael eu dosbarthu gan Gyngor Sir y Fflint i’r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn ein sir.

Mae’r apêl wedi cael ei ymestyn, gyda diwrnod ychwanegol ar gyfer cyfrannu ar ddydd Iau, 2 Mehefin o 11:30am i 3:30pm.

Mae’r theatr yn gofyn i bobl lenwi bocs esgidiau gyda danteithion, byrbrydau, teganau, gemau, celf a chrefft, hadau neu lyfrau a’u gollwng nhw yn y theatr – gan drefnu amser penodol i’w gollwng a dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol drwy’r amser. O’r theatr fe gaiff y bocsys eu rhoi mewn cwarantin yna eu sortio i sicrhau eu bod yn ddiogel, cyn cael eu dosbarthu i blant diamddiffyn yn Sir y Fflint. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: www.theatrclwyd.com/rainbowshoebox