Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Siopa’n ddiogel

Published: 18/06/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn adolygu’r trefi a phrif ganolfannau manwerthu ac ar hyn o bryd yn nodi ac yn gweithredu trefniadau newydd ar gyfer siopa’n ddiogel.  Y bwriad yw cael trefniadau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle ar gyfer bob un o’n trefi allweddol yn barod ar gyfer dyddiad ailagor ar 22 Mehefin, neu’n fuan wedyn.

Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu a’u diwygio yn rheolaidd wrth iddi ddod yn fwy amlwg pa fesurau sy’n gweithio’n dda a pha rai sydd angen cael eu haddasu.  Er mwyn cynorthwyo gyda’r mesurau cadw pellter cymdeithasol, rydym yn awyddus i glywed barn y gymuned fusnes, yn arbennig o ran pa offer, gwybodaeth a chymorth y gallwn ni ddarparu er mwyn eu galluogi nhw i fasnachu’n ddiogel ac yn effeithiol. I ddechrau, dylid cyfeirio pob sylw ac awgrym at Strydwedd trwy ffonio 01352 752121 neu anfon e-bost at customerservices@flintshire.gov.uk

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Cyngor yn sefydlu grwpiau cyswllt canol tref yn seiliedig ar y we, lle bydd cyfle pellach i fusnesau gynnig adborth a syniadau. I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â: regeneration@flintshire.gov.uk

I gael cymorth a chyngor cyffredinol i fusnesau, cysylltwch â: busdev@flintshire.gov.uk