Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailagor busnesau’n ddiogel yn Sir y Fflint

Published: 19/06/2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw, bydd eiddo manwerthu yn gyffredinol yn cael caniatâd i ailagor yng Nghymru cyn belled eu bod yn gwneud hynny’n ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer manwerthwyr sydd i’w cael yn https://llyw.cymru/manwerthwyr-canllawiau-coronafeirws

Mae angen i fusnesau gadw eu hunain, staff a chwsmeriaid yn ddiogel.   

Mae cyngor Iechyd a Diogelwch ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar https://www.hse.gov.uk/.  Os oes angen cyngor pellach arnoch ar ôl edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws a’r tudalennau “atebion i gwestiynau”, eu Llinell Gyswllt yw 0300 790 6787

Ar gyfer y busnesau hynny yn Sir y Fflint sy’n bwriadu ail-agor, mae canllawiau hefyd ar gael o amryw o ffynonellau. Mae ein gwefan https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Health-and-Safety/Open-safely-during-coronavirus-COVID-19.aspx yn darparu rhagor o wybodaeth a dolenni defnyddiol.