Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod y Lluoedd Arfog 2020

Published: 23/06/2020

AFD-Logo-Welsh_2020.jpgBydd Cyngor Sir y Fflint yn codi baner y Lluoedd Arfog i gefnogi Wythnos y Lluoedd Arfog (22 Mehefin - 27 Mehefin).   

Bydd Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn yn cael ei ddathlu ar 24 Mehefin. Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn ei wneud i’r Lluoedd Arfog, i’n cymuned, ein sefydliad a’n cenedl. Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn. 

Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn barod i wasanaethu fel rhan o’r lluoedd arfog pe bai eu hangen ar eu gwlad.

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae ein gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a thramor. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gânt o’r lluoedd arfog yr un mor bwysig, ac maen nhw’n dod â’r rhain yn ôl i Gyngor Sir y Fflint. Mae pob un o’n milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser i wasanaethu’r genedl. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel a braint ydi dathlu’r gwaith maen nhw’n ei wneud.”

Mae’r Cyngor yn gwbl ymroddedig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog gan gynnwys milwyr wrth gefn ac ym mis Tachwedd 2019 derbyniodd wobr aur Cynllun Cydnabod Cyflogwr y Weinyddiaeth Amddiffyn.  

Y wobr aur yw anrhydedd fwyaf y cynllun. I dderbyn y wobr hon mae’n rhaid i gyflogwyr ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei thin dan anfantais yn y gweithle. Mae cymuned y Lluoedd Arfog yn cynnwys milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddathlu’n rhithiol ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2020. 

#SaliwtioEinLluoedd 

#DiwrnodYLluoeddArfog