Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dechrau’n Deg Sir y Fflint – helpu plant a chefnogi gwarchodwyr plant

Published: 02/07/2020

Sue Formstone 2.jpg

Mae tîm Dechrau’n Deg Sir y Fflint yn frwdfrydig ynglyn â chreu'r cyfleoedd gorau posibl i blant ifanc. 

Rhaglen wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd targed gan gefnogi’r holl deuluoedd i roi dechrau teg mewn bywyd i blant 0-3 mlwydd oed. Mae’r cynllun yn anelu i ddarparu gwasanaethau cymorth dwys i blant 0-3 oed a’u teuluoedd.

Mae Sue Formstone wedi bod yn warchodwraig plant cofrestredig ers bron i ddeuddeg mlynedd ac mae wedi bod yn gweithio gyda babanod a phlant cyn ysgol ers dros 23 mlynedd. Mae’n un o’r gwarchodwyr plant sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Dechrau'n Deg yn Sir y Fflint. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:

Rwyf wedi darparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant dwy i dair oed ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae’n bleser ymwneud â Dechrau'n Deg. Efallai mai dim ond am rai tymhorau y bydd y plant gyda fi ond yn fy marn i mae’n amser cwbl hanfodol yn natblygiad plentyn. Rwy’n cael y cyfle i’w gweld yn datblygu ymhob maes, gan gynnwys yn gymdeithasol, corfforol, emosiynol a chreadigol a’r cyfan mewn cyfnod byr. Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth fy Ymgynghorydd Dechrau’n Deg, Jenny Cooper, sy’n ymweld â mi a’r plant yn fy lleoliad yn rheolaidd i gynnig cefnogaeth a chyngor i mi. 

“Fe ddyfarnwyd grant i mi yn gynharach eleni o Grant Cyfalaf Bach 3-4 Oed Sir y Fflint ac fe brynais dy chwarae gyda hwn ac mae wir wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r plant rwy’n gofalu amdanynt. 

“Pan ddigwyddodd y cyfnod clo, roeddwn yn bryderus iawn am ddyfodol fy musnes. Ond rwyf wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod hwn gan fod y plant oedd gen i yn cael eu cefnogi drwy Dechrau’n Deg ac er nad oedd Jenny yn gallu ymweld â fy lleoliad yn ystod y cyfnod clo, mae wastad wedi bod ar ben arall y ffôn drwy’r cyfnod anodd hwn, felly dydw i ddim wedi teimlo’n unig o gwbl.

“Mae Dechrau’n Deg yn ymdrin â rhan fawr o’r ddarpariaeth gofal plant yn Sir y Fflint. Dim ond rhan fach iawn o hyn ydw i. Ond mae fel pos jig-so mawr ac mae pob darn yn bwysig i les y plentyn, ac er mod i’n gweithio ar fy mhen fy hun rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, gyda'r plentyn yn graidd i'r cyfan. 

“Rydym i gyd yn gorfod dod o hyd i ffyrdd o addasu i’r normal ‘newydd’. Ond rwy’n falch fy mod i nid yn unig wedi cefnogi’r plant hynny oedd angen cefnogaeth fwyaf ac wedi helpu gweithwyr allweddol i allu parhau i weithio drwy ofalu am eu plant bach, ond hefyd drwy gydol y cyfnod clo hwn mae'r plant wedi chwarae, chwerthin ac wedi cael hwyl! Yn wir dyma'r swydd orau!”

Mae tîm Dechrau’n Deg Sir y Fflint yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd gyda phlant ifanc mewn ardaloedd dynodedig yn Sir y Fflint.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint: Ebostiwch fisf@flintshire.gov.uk  neu chwiliwch am y tîm ar y cyfryngau cymdeithasol.