Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar Wasanaeth Cofrestru Sir y Fflint

Published: 02/07/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd seremonïau priodas a phartneriaeth sifil yn y Swyddfa Gofrestru yn ailddechrau o heddiw, 1 Gorffennaf 2020 ymlaen.  

Rydym yn dilyn cyngor a chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar bellhau corfforol.  Mae’n golygu ein bod wedi cyflwyno cyfyngiadau ar y nifer o bobl a ganiateir i mewn i’n ystafelloedd seremoni ar yr un pryd.   

Bydd pellhau corfforol yn helpu i sicrhau bod y swyddogion ac ymwelwyr yn ddiogel ac i atal lledaenu’r coronafeirws.  Y nifer fwyaf o bobl a ganiateir ym mhob stafell yw:

• Swyddfa Gofrestru – 6 o bobl

• Ystafell Seremoni – 11 o bobl

Tan y byddwn yn cael rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, ni allwn gynnal seremonïau mewn eiddo cymeradwy (h.y. gwestai).  Rydym yn deall bod yr ansicrwydd hyn yn gwneud y gwaith cynllunio’n anodd, ac ymddiheurwn i bob cwpwl sydd wedi cael eu heffeithio.

Bydd cofrestru babanod a anwyd yn Sir y Fflint yn dechrau o heddiw, 1 Gorffennaf 2020 ymlaen. 

Mae darpariaeth mewn lle i gyflawni cofrestru genedigaethau yn rhannol dros y ffôn.  I gwblhau’r cofrestriad, mae'n rhaid i riant/ rieni lofnodi’r gofrestr yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru a byddwn yn trafod y trefniadau ar gyfer hyn pan fyddwn yn trefnu’r apwyntiad.   

Gellir cofrestru marwolaethau a marw-enedigaethau dros y ffôn. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag ymarferwyr iechyd i rannu gwybodaeth yn electronig, i gael gwared ar y gofyniad i deuluoedd mewn profedigaeth ddod i’r Swyddfa Gofrestru yn ystod yr argyfwng cyfredol. 

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

 “Rydym yn falch iawn o groesawu cyplau i'r Swyddfa Gofrestru ar gyfer seremonïau priodas sifil a phartneriaethau sifil o'r 1 Gorffennaf 2020 ymlaen. Rydym yn cydnabod y bydd seremonïau'n wahanol, bydd cyfyngiad ar y fformat a chynnwys y seremonïau yn ogystal â’r niferoedd o bobl a wahoddir i fynychu’r seremoni.  Fodd bynnag, rydym yn credu y bydd pawb ynghlwm yn gwerthfawrogi bod hyn yn angenrheidiol i gadw pawb yn ddiogel gan ganiatáu i gyplau ddathlu carreg filltir pwysig yn eu bywydau.   

“Yn ychwanegol i seremonïau, rwy’n falch bod cofrestru genedigaethau wedi ailddechrau ar gyfer babanod a anwyd yn y sir yn ystod y cyfnod clo, ac mae ein tîm yn y Swyddfa Gofrestru yn edrych ymlaen at gefnogi cyplau fel yr ydym yn ailddechrau’r gwasanaethau pwysig hyn.”

 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein holl wasanaethau cofrestru, ewch i’n gwefan yn y Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint.

I drefnu apwyntiad i gofrestru dros y ffôn, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.