Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Brofi, Olrhain a Diogelu Ranbarthol Iechyd y Cyhoedd (Rhan 2)

Published: 08/07/2020

Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gefnogi adroddiad ar gymryd rhan lawn mewn Rhaglen Brofi, Olrhain a Diogelu ranbarthol pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth 14 Gorffennaf.

Bydd hefyd gofyn iddynt gymeradwyo’r cynnig fod Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer y rhaglen ranbarthol ar ran y chwe awdurdod lleol.

Mae rhaglen Brofi, Olrhain a Diogelu (TTP) yn hanfodol er mwyn atal ail don o Covid-19, a chynllunio adferiad o’r sefyllfa argyfwng hon. 

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ffurfio tîm rhanbarthol arbenigol i arwain TTP yn defnyddio gweithwyr a adleoliwyd, ac mae'r chwe chyngor wedi sefydlu timau olrhain lleol drwy ddefnyddio gweithwyr a adleoliwyd yn yr un modd. Mae hwn yn fodel canolradd sydd wedi bod ar waith ers pum wythnos.

Mae’r adroddiad yn argymell fod y rhanbarth yn symud oddi wrth y model adleoli anghynaladwy hwn i fodel cyflogi, a fydd yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru gyda Sir y Fflint yn gweithredu fel yr unig gyflogwr ar gyfer y chwe awdurdod lleol. Byddai’r Bwrdd Iechyd yn gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer y tîm arbenigol rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid i fwrw ymlaen â’r model cyflogaeth ac mae’r broses recriwtio ar gyfer y model hwn ar ddigwydd.