Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cydweithio i ddiogelu ein plant a’n preswylwyr diamddiffyn

Published: 08/07/2020

‘Mae Diogelu yn gyfrifoldeb i bawb’ ac mae angen i ni ofalu am ein gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn yn fwy nag erioed’.

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles. Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus yn rhan bwysig o ddiogelu hefyd. 

Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae’n bwysig bod gan bob un ohonom ni fwy o ymwybyddiaeth o’r materion a’n bod yn amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Ein neges allweddol yw “Gweld Rhywbeth – Dweud Rhywbeth. Rhaid i ni gyd allu adnabod yr arwyddion a gwybod sut i ddweud amdanynt." 

Os ydych yn gweld rhywbeth nad yw’n edrych neu’n ymddangos yn iawn, yna mae’n debygol eich bod yn iawn ac y GALLWCH wneud gwir wahaniaeth i les rhywun arall. 

Rydym wedi cael enghreifftiau diri o “weithredoedd da” yn ystod y sefyllfa bresennol. Un enghraifft yw un o’n gyrwyr sy’n dosbarthu parseli bwyd i breswylwyr diamddiffyn.  Fe wnaeth sylwi bod y parsel bwyd o'r wythnos gynt dal ar garreg y drws.  Ar ôl holi, clywodd nad oedd y preswylydd oedrannus yn dygymod yn dda a galwodd am gymorth a chefnogaeth iddo.  Hefyd aeth yn syth i’r fferyllfa agosaf i gasglu'r feddyginiaeth frys oedd ei angen.  Os nad oedd y gyrrwr hwn wedi dilyn ei reddf, yna gallai'r preswylydd fod dal mewn sefyllfa enbyd.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu amheuon ynglyn â phlentyn yn Sir y Fflint yn cael ei niweidio, teulu angen cefnogaeth neu oedolyn sydd mewn perygl, ffoniwch:

  • 01352 701000 i adrodd ynghylch pryderon am blant
  • 03000 858858 i adrodd ynghylch pryderon am oedolion

Mae swyddfeydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a swyddfeydd Sorted Sir y Fflint ar gau ar hyn o bryd ond os ydych angen siarad gyda rhywun ffoniwch 01352 701125 a gadewch neges a bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Fel arall, y tu hwnt i oriau swyddfa arferol, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar 0345 0533116. 

Gellir anfon atgyfeiriadau neu ymholiadau Amddiffyn Plant ar e-bost at ChildProtectionReferral@flintshire.gov.uk

Gellir anfon atgyfeiriadau neu ymholiadau Amddiffyn Oedolion ar e-bost at SSDuty@flintshire.gov.uk.

Cofiwch ym mhob achos os yw eich ymholiad yn fater i’r heddlu ffoniwch 101 ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys neu os yw'r mater yn un brys ffoniwch 999.

Hoffem roi sicrwydd i chi fod ein gwasanaethau amddiffyn plant ac oedolion yn parhau ac rydym yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd i adrodd unrhyw bryderon  sydd ganddynt am blant, teuluoedd ac oedolion mewn perygl.