Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion i ailagor i bob disgybl o fis Medi

Published: 15/07/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu cynlluniau gan y Gweinidog Addysg i ganiatáu i ysgolion sy’n gallu ailagor yn ddiogel, i wneud hynny o wythnos gyntaf mis Medi, gyda phob ysgol i ailagor o 14 Medi.

Mae cynlluniau a pharatoadau lleol ar waith rhwng yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn yr ardal i adolygu asesiadau risg, prosesau a systemau i sicrhau bod modd i ysgolion unigol groesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel, yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ysgolion sy’n gallu gwneud hynny yn ailagor o wythnos gyntaf y tymor. Mae’n bosibl y bydd angen i rai grwpiau penodol o ddysgwyr gael eu blaenoriaethu yn ystod yr wythnos hon, fel Blwyddyn 7, 12, 13 ac Unedau Arbennig ar gyfer Ysgolion Uwchradd, Unedau Arbennig ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Blwyddyn 6. Bydd rhieni yn cael gwybodaeth fwy manwl gan eu hysgol a’r Awdurdod Lleol pan fydd ar gael. 

O 14 Medi, bydd presenoldeb yn yr ysgol yn orfodol. Gofynnir i rieni gysylltu â’u hysgol os na fydd disgybl yn gallu mynychu, er mwyn trafod ymhellach.

Bydd gan bob ysgol heriau lleol i roi sylw iddynt, gan gynnwys lefelau staffio. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr i gadarnhau trefniadau cludiant ysgol. Bydd Sir y Fflint yn gweithio’n agos gyda phob ysgol i ddatrys materion o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £29m i roi hwb i gefnogaeth i ddysgwyr i leihau effaith yr amhariad oherwydd y sefyllfa barhaus. Caiff niferoedd cyfwerth â 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gymhorthwyr addysgu eu recriwtio ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf, gan dargedu cefnogaeth ychwanegol at Flwyddyn 11, 12 ac 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig a diamddiffyn o bob oed. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i egluro’r manylion.

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Dros y misoedd diwethaf, bydd llawer o ddysgwyr wedi teimlo’n bryderus am fethu cyfleoedd dysgu a methu gweld eu ffrindiau. Rwy’n croesawu cynllun y Gweinidog i ganiatáu i ysgolion groesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel ym mis Medi yn unol â’r holl fesurau diogelwch angenrheidiol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn gwybod bod staff sy’n gweithio’n galed mewn ysgolion, dysgwyr a’u teuluoedd dan bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol yn ystod y cyfnod hynod o heriol hwn. Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion a lleoliadau i ystyried y ffordd orau o gefnogi anghenion lles parhaus pob dysgwr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae’r argyfwng wedi amharu’n ddifrifol ar waith dysgu disgyblion. Rydym yn croesawu’r addewid £29m gan Lywodraeth Cymru i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi’r cam adfer, lleihau’r effaith ar ddisgyblion, a pharhau’r gwaith parhaus i godi safonau ysgolion.”