Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darpariaeth gofal plant dros yr haf yn Sir y Fflint

Published: 15/07/2020

Mae ysgolion Sir y Fflint wedi darparu gofal plant effeithiol iawn i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn pan oedd yr ysgolion ar gau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud hi’n glir iawn nad oes disgwyl i ysgolion na chynghorau barhau i gynnig gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol yn ystod gwyliau’r haf na phan fydd ysgolion yn ailagor yn llawn ym mis Medi.

Gan fod y cyfyngiadau wedi’u llacio a rheolau newydd yn caniatáu i deuluoedd greu ‘aelwydydd estynedig’, a mwy a mwy o ddarparwyr gofal plant preifat yn ailagor, gobeithio y bydd modd i rieni wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain ar gyfer gwyliau’r haf. O ran yr ysgolion hynny sydd â chlybiau gwyliau, maen nhw wedi bod yn gweithio’n agos â’r darparwyr hynny i allu cynnig y gwasanaeth hwnnw i rieni. Bydd rhieni plant 0-4 oed sydd wedi bod yn derbyn gofal plant drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws (C-CAS) Llywodraeth Cymru, ac sydd wedi cofrestru cyn 12 Gorffennaf, yn gallu parhau i dderbyn y cymorth hwnnw tan 31 Awst.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i geisio cynnig rhai o gynlluniau chwarae gwyliau’r haf Sir y Fflint yn ystod pythefnos olaf y gwyliau haf (16-28 Awst). Bydd y cynlluniau chwarae hyn yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dydi pob Cyngor Tref a Chymuned ddim yn gallu cefnogi’r ddarpariaeth fyrrach hon eleni, ond mae nifer fawr ohonyn nhw yn gallu ac mae’r cynlluniau yn cael eu datblygu. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor gyda hyn a bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yn eu hyrwyddo i wneud yn siwr bod rhieni yn gwybod ble mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cynnig a sut.