Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Treth y Cyngor 

Published: 10/08/2020

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn ymwybodol o dwyll arall sy'n edrych o bob golwg fel Treth y Cyngor. 

Daw’r twyll hwn ar ffurf e-bost yn honni o fod gan GOV.UK ac yn gofyn i chi glicio ar ddolen i hawlio eich ad-daliad.  Mae hwn yn sgâm ac yn ymgais i ganfod eich manylion banc, peidiwch â chlicio ar y ddolen.

Os oes ad-daliad Treth y Cyngor yn ddyledus i unigolyn, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cysylltu yn uniongyrchol.  Os yw Treth y Cyngor yn cael ei dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd yr ad-daliad yn cael ei dalu yn ôl i’r cyfrif banc yn uniongyrchol.  Os ydych yn talu mewn unrhyw ddull arall, bydd y cyngor yn anfon bil credyd Cyngor Sir y Fflint i chi drwy’r post ac yn gofyn i chi gysylltu â nhw i drefnu sut i wneud ad-daliad.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu bryderon am eich Treth Cyngor, cysylltwch â Refeniw Cyngor Sir y Fflint ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at local.taxation@flintshire.gov.uk.